Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

Bedyddwyr, nid yn unig yn y Dywysogaeth, ond hefyd yn y deyrnas.

Aeth Price i'r Athrofa fel y dylai pob dyn ieuanc fyned—I DDYSGU. Er na fu tymhor ei arosiad yn faith ynddi, gadawodd y ddysgyblaeth gafodd tra yno ei hol arno am ei oes. Dywed Spinther mai "dysgu meddwl a deall" yw amcan uchaf dysgyblaeth feddyliol, ac os na chyrhaeddir hyn, nid yw wahaniaeth pa faint o amser gaiff yr efrydydd ieuanc yn yr athrofa, neu beth fyddo safle yr athrofa y byddo ynddi. Nid yw yr athrofa yn gwneyd nemawr mwy i neb nâ'i ddysgu i drin yr arfau, fel y gellir etto ymladd y frwydr. Amser ydyw i osod y sylfaen i lawr fel y gellir etto adeiladu. Ymdrech bersonol drwy gydol oes sydd yn dysgyblu'r galluoedd ac yn cyfoethogi'r meddwl. Heb hyny, nid yw yr hyfforddiad gaiff y dyn yn ei ieuenctid, bydded hir neu fyr, ddim amgen golch aur ar efydd. Mae gan bob dyn, meddai Gibbon, "ddwy ddysgeidiaeth—un a dderbynia oddiwrth ereill ac un fwy pwysig a rydd iddo ei hun." "Y rhan oraf o ddysgeidiaeth pob dyn," meddai Syr Walter Scott, "yw yr hon a rydd iddo ei hun." Nid yw y ddysgeidiaeth a dderbynir yn yr ysgolion gwahanol ond dechreuad, ac y mae yn werthfawr yn benaf am ei bod yn hyfforddi y meddwl ac yn ei arferyd i ymroad ac astudiaeth barhaus. Y mae y wybodaeth gasgla y dyn drwy lafur caled ac hunan—ymroad yn eiddo mwy gwirioneddol iddo nà dim a roddir ynddo gan ereill. Mae hon yn tynu allan ei alluoedd goraf ac yn magu ynddo nerth anorchfygol. Yr oedd wybodaeth werthfawr hon wedi dyfod yn etifeddiaeth foreuol i Price, ac ychwanegai gufydd at gufydd, maes at faes, yn gysson nes yr oedd wedi myned yn gyffredinol a llydan. Ond ei osodiad ar ben yr iawn ffordd yn yr athrofa a wnaeth iddo allu cerdded mor nerthol, a gorchfygu anhawsderau mor fawrion yn ystod ei fywyd defnyddiol a gwir werthfawr. Ni chamdreuliodd ei amser fel efrydydd. Defnyddiodd ef i bwrpas. Ymosododd yn egniol i gasglu gwybodaeth. Gwnaeth gynnydd canmoladwy yn ei efrydiaeth, a gosododd i lawr sylfeini cedyrn ar gyfer llafur personol yn y dyfodol. Ennillodd iddo ei hun air da gan ei athrawon dysgedig a'i gydfyfyrwyr parchus fel gwr ieuanc caredig, ymroddgar, a chrefyddol. Profir hyn i raddau gan y ffaith groniclir yn Mynegiad y Llywydd am Orphenaf y 30ain, 1845, i'r perwyl fod Mri. N. Thomas, Thos. Price, a Thos. Evans, wedi appelio am estyniad o'u hamser yn y coleg ac