yn mis Ionawr, 1844, cyrhaeddais Bontypwl yn nghwmni Mr. Lot Lee; ac yn naturiol, aethom yn gyntaf oll i dy fy hen gyfaill caredig, y diweddar Hybarch Edward Evans, diweddar o Ddowlais, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog y Tabernacl, Pontypwl, ac yn byw uwchlaw yr Athrofa ar Benygarn. Yno cwrddasom â Mr. Thomas Evans, o'r Hafod Boeth, Pandy'rcapel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr, ac a fu farw yno ryw flwyddyn a hanner ar ol hyny, o'r typhus fever, ac a gladdwyd wrth hen gapel Penygarn. Yr oedd efe yn gyfaill calon i Dr. Price, ac yn yr un dosparth ag ef. Aeth Mr. Lee a minau gyda Mr. T. Evans dan grynu i'r Athrofa yn lled hwyr y nos hono: a bu peth ymryson pa un o honom oedd y myfyriwr hynaf—y senior. Ond cafwyd mai Mr. Lee gamodd gyntaf dros drothwy y colegdy, ac felly rhoddwyd y flaenoriaeth gyntaf iddo ef. Ar ol myned i mewn, eisteddasom yn yr ystafell giniawa, a'n calonau yn curo yn gyflymach nag arferol, a gadawodd y brawd T. Evans i ofalu am ryw orchwylion oedd ganddo. Pwy ddaeth i fewn gyntaf ond Mr. Evan Meredydd (Ieuan Grug), yn ymddangos yn frysiog, a golwg wyllt ac annybynol arno. Cyfarchodd ni, mae'n wir; ond yr oedd ei gyfarchiad yn oer, ei ymddangosiad yn annybynol, a'r drem a daflodd arnom yn dangos ei fod ar delerau da ag ef ei hun, ac yn lled ddisylw, os nad diystyrllyd, o ereill. Yr oedd yr olwg arno a thuedd i beru braw, tra y safai a'i gefn at y tân, ei ddwylaw o'r tu ol iddo, ei wallt trwchus wedi ei droi fel dau gorn hwrdd uwchlaw ei glustiau, heb sylwi dim arnom, gan mor llwyr yr ymddangosai wedi ei lyncu gan ryw fyfyrdodau a allasent fod yn ymwthio yn ei feddwl. Rhyw argraff anffafriol gafodd ei ymddangosiad ar fy meddwl, ac ni lwyddodd adnabyddiaeth pellach i symmud yr argraff a gododd o'i bresenoldeb y pryd hwnw ar fy meddwl. Yn nesaf ar ei ol ef daeth Mr. Evan Thomas, wedi hyny y Parch Evan Thomas, Casnewydd, Sir Fynwy i fewn, a lled fyr a sych oedd ei gyfarchiad yntau; ond yr oedd rhywbeth yn ei gyfarchiad a'i wynebpryd siriol ef yn peru i mi farnu yn well am dano nag am ei flaenorydd. Pa fodd y bu ar ol hyny y nos hono, nid yw fy nghof yn rhyw frysiog iawn, gan fod pryder ac ofn wedi fy meddiannu i'r fath raddau fel nas gallwn braidd feddwl am dani na thalu nemawr o sylw i neb.
"Yn ffodus neu anffodus i ni fel dau ddyfodiad newydd, daethom y nos hono neu yn gynnar dranoeth i gyffyrddiad ag un Mr. D. Davies, un o Landyssul os wyf yn cofio yn dda, yr hwn, am ryw drosedd neu gilydd ar rai o ddeddfau y ty, oedd wedi ei osod o'r neilldu mewn dystawrwydd ac unigedd gan ei gydfyfyrwyr, heb neb yn meiddio siarad gair ag ef; ac efe oedd yr unig un a ddangosodd serch neillduol tuag atom, a hyny, fel y cawsom ar ddeall wedi hyny, er mwyn