Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/44

Gwirwyd y dudalen hon

y gair telegram (pellysgrif) yn arwyddo y genadwri ei hunan (telegraphic message), yn hytrach na'r modd y trosglwyddid hi; ond mynai y brawd yn ei frwdfrydedd arferol, mai efe oedd yn iawn, a bu pawb ereill yn ddystaw rhag bod cynhwrf yn eu plith. Yn ol yr hen ddiareb, "Y neb sydd heb ei fai sydd heb ei eni " Bai penaf y brawd anwyl Price oedd ei gyndynrwydd i lynu yn ei olygiadau wedi iddo unwaith roddi mynegiad iddynt. Glynai ynddynt fel y gele, pa mor gryfion bynag fyddai y rhesymau a ddygid yn eu herbyn. Cafwyd amryw brawfion o hyny yn nghynnadleddau Cymmanfa Morganwg, yr hyn fyddai yn achlysur weithiau i ddwyn brodyr gledd yn nghledd ag ef.

"Er hyny, yr oedd yn gwbl ddiddrwg a diddichell. Ni ch'ai dialgarwch le i ymnythu yn ei enaid, na dim adgof o'r frwydr i aros ar ei feddwl; maddeuai i'r ymosodwr cyn i'r haul fachlud, a hyny hyd y nod pan y gwnaethid cam ag ef. Gwyr yr ysgrifenydd yn dda am y nodwedd hon ynddo. Mor bell ag yr wyf yn cofio, gydag ef y cefais y ffrae gyntaf yn ystod fy ngyrfa athrofaol, a ffrae nwydwyllt oedd hi. Yr oedd ef yn lled ffyrnig, ac yn arfer geiriau miniog; a minau, yn ol fy nhymheredd boeth arferol y pryd hwnw, wedi gwylltio yn eithafol, ac yn mhoethder y frwydr wedi gwneuthur ymosodiad creulon arno, a defnyddio enwau arno, gan ei alw yn ieithwedd y Gogledd yn hen glep gerryg, yn mhlith enwau ereill. Ond mor fuan ag yr aeth yr ymrafael drosodd, ymddengys i bob rhith o adgof o honi ddiflanu o'i fynwes. Daethom yn nes at ein gilydd, a ffynodd cyfeillgarwch agosach rhyngom nag o'r blaen tra y buom gyda'n gilydd yn yr athrofa. Daeth yr un peth i'r golwg yn ein hanes yn fuan ar ol i mi sefydlu yn Mhontypridd. Mewn cynnadledd lle yr ymddangosai arwyddion o bleidgarwch, gwneuthum ymosodiad lled finiog ar y brodyr a ymddangosent i mi yn bleidgar, ac yn enwedig ar Dr. Price, cadeirydd y gymmanfa y flwyddyn hono. Nid oes angen am fyned i'r manylion, ond mor bell ag y dangosant y nodwedd a grybwyllwyd yn nghymmeriad Dr. Price. Yr wyf yn cofio, fel pe buasai wedi cymmeryd lle ddoe, fod ofn ar fy enaid gwrdd â Dr. Price wrtho ei hunan ar ol y gynnadledd, rhag y buasai yn cyfeirio cyflegrau tanllyd ei lid ar ei ymosodwr crynedig. Cwrddais ag ef yn fuan ar yr heol; ond yn lle gwg, gwen oedd ar ei wyneb serchog ac agored. Estynodd ei law i mi, yr hon a ddangosai yn ei hysgydwad cynhes fod ei holl galon ynddi.

Peth arall a nodais ynddo yn dra boreu yn yr athrofa, oedd ei sel a'i ffyddlondeb o blaid gwirioneddau athrawiaethol Cristionogaeth. Daeth dyn ieuanc i Bontypwl, yr hwn a broffesai ei hun yn anffyddiwr, os nad yn atheist, a thynai amryw i'w wrando ar betryal marchnad y dref i wrando arno yn gwawdio yr Ysgrythyrau, ac yn diystyru yr Iawn ac athrawiaethau Efengylaidd ereill. Methodd brwdfrydedd Cristionogol