PENNOD V.
DECHREUAD EI WEINIDOGAETH.
Dyddordeb myfyrwyr yn eu gilydd—Y Parch. B. Evans, Hirwaun, a'i ddiacon—Amgylchiadau yr alwad i Benypound—Y Dr. a Mr. Thomas Joseph—Ei urddiad—Ei hanes gan Lleurwg—Dechreu ei waith yn egniol—Anfanteision—Yr hen weinidog—Talu y weinidogaeth—Barn Cynddelw—Dyfyniad o lythyr— Hen arferion Eglwys Penypound—Y Plygain—Y Luther ieuanc—Barn y diweddar Barch. W. R. Davies, gynt Dowlais, amdano—Llythyr W. Davies, Ysw., Kansas—Shakespeare—Dal ar y cyfleusdra—Manteision er anfanteision.
YNN y flwyddyn 1843, ymsefydlodd un o gyd-lafurwyr Thomas Price, sef y Parch. Benjamin Evans, yn weinidog yn eglwys y Bedyddwyr yn Ramoth, Hirwaen, yn yr hwn le y cafodd ffafr yn ngolwg y bobl, ac y llafuriodd gyda llwyddiant mawr hyd ei symmudiad i Heolyfelin, Trecynon, Aberdar.
Yn y flwyddyn 1845, rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol yn eglwys Penypound (yn awr Calfaria, Aberdar), i fyny, gan gymmeryd bugeiliaeth yr eglwys yn y Tongwynlas. Erbyn hyn yr oedd y Parch. B. Evans, Hirwaen, yn cael gwahoddiadau mynych i bregethu yn Aberdar, Cwmbach, a manau ereill, ac yn dechreu ennill dylanwad yn mhlith yr eglwysi y pregethai iddynt.
Fel y mae yn naturiol i weinidogion ieuainc deimlo a gweithredu yn garedig tuag at eu cyd-lafurwyr, felly yn gywir yr oedd yn hanes Mr. Evans. Yn gyffredin meddylia y myfyrwyr wrth sefydlu yn y weinidogaeth yn uchel am eu Alma Mater, a chredant lawer yn eu cyd-lafurwyr. Gwnant eu goreu yn aml i'w cynnorthwyo i gael lleoedd cyfaddas a chysurlawn. Yr oedd yn naturiol, gan fod hen eglwys barchus Penypound yn myned yn wag, fel y dywedir, i weinidog ieuanc Hirwaen wneyd ei oreu i geisio gweithio un o'i gyd-fyfyrwyr i fewn i'r gwagle, ac felly y gwnaeth. Yr oedd gan y Parch. B. Evans fantais fawr i wneyd hyny, gan fod un o'i ddiaconiaid, sef Mr. Evan Davies, gof, tad-yn-nghyfraith Mr. Walter Leyshon, wedi