aros yn yr eglwys, a gwaith mawr yn ei aros yn ei lyfrgell. Nid oedd yr eglwys yn Mhenypound yn awr ond gwanaidd, a'r gynnulleidfa yn gymharol fechan. Rhif ei haelodau ydoedd 91, rhwng y gangen yn Mountain Ash. Yr oedd angen gweinidogaeth rymus yn Aberdar, yn ogystal a Mountain Ash, i ddeffro y preswylwyr, a galw eu sylw at yr Efengyl. Am yr ychydig flynyddau cyntaf o'i weinidogaeth, blinwyd yspryd y gweinidog ieuanc gan gwerylon personol ychydig deuluoedd; ond yn fuan, darfu i ddylanwad ei weinidogaeth, ei fedrusrwydd i gyfarfod a thrin materion o'r fath, yn nghyd â'i benderfyniad diysgog, ladd pob ymryson, diarfogi pob gelyn, tangnefeddu pob terfysgwr, a dysgu yr eglwys i fod yn “ddyfal i gadw undeb yr yspryd yn nghwlwm tangnefedd." Nid ydym yn cofio ei glywed yn achwyn llawer ar ddiffyg tangnefedd a chydweithrediad yn Nghalfaria; ond gwyddom fod ei holl siarad am danynt yn gadael argraff ar ein meddwl ei fod yn eu caru â chariad dwfn a diffuant.
Er fod gan Price lawer o fanteision yn ei gylch newydd, gan fod yr ardal yn cyflym gynnyddu, a gwawr goleu masnachaeth megys yn tori ar y dyffryn, yr hwn wedi hyny a ymagorodd yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd a phwysig yn y Dywysogaeth, etto, yr oedd ganddo, fel mae yn rhy aml gan weinidogion ieuainc yn dechreu ar eu gyrfa bwysig, anfanteision mawrion i'w gwynebu, a rhwystrau anocheladwy i'w gorchfygu.
Yr oedd ei gynweinidog wedi cael gafael ddofn yn meddyliau yr eglwys, ac wedi ymgartrefu yn serch y gynnulleidfa, yn neillduol yr hen bobl, ac nid hawdd oedd ganddynt ollwng eu gafael ynddo. Ymddangosai rhai o'r hen frodyr fel pe yn wrthwynebol a chroes i'w gweinidog newydd, ac ni ddangosent tuag ato y cydymdeimlad a allai efe ddysgwyl ei gael ganddynt. Codai y teimlad hwn ychydig oddiar y ffaith fod y gweinidog newydd yn cael ac yn hawlio cyflog sefydlog, er nad oedd yn fawr, tra nad oedd yr hen yn cael ond yr hyn allai yr eglwys wneyd neu a ewyllysiai roddi iddo. Yr oedd oes y cyflogau heb ddyfod etto; ond nid oeddynt yn ystyried y gwahaniaeth rhwng amgylchiadau y naill a'r llall. Yr oedd y Parch. W. Lewis,y cyn-weinidog, yn arch-adeiladydd (architect) celfydd. Bu hefyd, yn amser ei weinidogaeth yn Aberdar, yn flaenor y seiri yn Ngweithiau Dowlais. Derbyniai gyflog gysson am ei wasanaeth yno. "Efe," adroddai Mr.