Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/56

Gwirwyd y dudalen hon

Thomas Joseph, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, "a dynodd gynlluniau Capelau High Street a Sion, Merthyr; Twynyrodyn, Wenvoe, Caerdydd; capel cyntaf y Bedyddwyr yn y Cwmbach, Aberdar, a llu ereill mewn gwahanol fanau "-fel, rhwng y cwbl, gallai Lewis fforddio byw heb ond ychydig neu ddim oddiwrth yr eglwys, tra nad oedd gan Price yr adeg hono ddim ond ei gyflog at ei gynnaliaeth. Yr oedd yr hen frodyr yn Mhenypound wedi eu dysgu yn ddrwg, ac wedi eu harfer i annghredu yn eu gallu i gyfranu at yr achos, ac yn neillduol at y weinidogaeth, o herwydd hyn.

Ofnwn fod llawer o eglwysi etto yn cael eu drygu yn y cyfeiriad a nodwn. Gwyddom am rai brodyr da wedi gorfod dyoddef am flynyddau, ac wedi cael gofid a thrafterth i ddysgu y bobl i gyfranu at achos crefydd, a hyny am fod brodyr cyfoethog, amaethwyr cefnog, neu fasnachwyr cyfrifol, wedi bod yn gweinidogaethu ar yr eglwysi o'u blaen, y rhai ni ddybynent ar y cyflogau gaent am eu llafur. Dylasai yr eglwysi ddangos yn ol eu gallu eu serch a'u teimladau da at eu gweinidogion drwy eu cynnal yn deilwng o'r Efengyl. Dysgwylia llawer o honynt wasanaeth mawr a phregethu da am dal isel. Adroddai yr enwog Hybarch Robert Ellis (Cynddelw) unwaith mewn cwrdd urddo gweinidog yn y Gogledd hanes hen frawd, un o'i aelodau yn Nglynceiriog, yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, "Nid ydych chwi, Robert Ellis, yn pregethu yn ddigon da i ni yn y Glyn." "Dichon nad ydwyf," atebai Cynddelw, "ond gwrandaw hyn, yr ydych chwi am gael cig eidion wedi ei rostio bob Sabboth a phwdin, tra nad ydych yn talu ond am datws a llaeth, ie, tatws a llaeth.' Tebyg ydoedd yn Aberdar pan gychwynodd y Dr. yno, a chafodd ddyoddef ychydig yn herwydd y cyfnewidiad yn y cyfeiriad a nodwn. Ond ni pharhaodd pethau yn faith felly, oblegyd yr oedd aelodau newyddion yn dyfod o fanau ereill. Cynnyddodd yr achos, a daeth yr eglwys yn alluog i roi cyflog deilwng i'w gweinidog llafurus. Am hyn ysgrifena Mr. Wm. Davies, Laurence, Kansas, yn ei lythyr o'r hwn y dyfynasom yn flaenorol:—"Cofiaf hefyd eich llafur caled am ychydig dal arianol dros flynyddau—misoedd lawer yn olynol heb gael ond tua hanner yr hyn oedd wedi ei addaw i chwi. Digon digalon oedd hyn, a buasai llawer un wedi gosod ei ffidl yn y to,' neu geisio ennill cynnulleifa fuasai yn talu yn well. Ond wedi hyny trodd y rhod, dylifai yr