arian i fewn, a gallasai pobl feddwl y buasech wrth eich bodd pa fwyaf; ond pwy ond y chwi oedd y cyntaf i waeddi, Halt, dyna ormod, nid wyf am gael cymmaint.' Nid yw y nodwedd ddiariangar i'w chanfod yn gyffredin, a thrwy hyny y mae eich ymddygiad wedi gadael argraff ar fy meddwl na ddileir." Yr oedd hefyd rai hen arferion wedi eu mabwysiadu yn yr eglwys, yn erbyn y rhai y gosododd y gweinidog ieuanc ei wyneb, nid yn fyrbwyll, eithr gydag ystyriaeth a gofal mawr, etto gyda phenderfyniad diysgog i'w symmud yn llwyr. Gwna un enghraifft yn unig y tro i'n gwasanaethu yma, gan ei bod yn ddigonol i ddangos nodweddiad y dyn ieuanc oedd wedi ymsefydlu yno. Cyn dyfodiad Price i Aberdar, arferid ar foreuau dydd Nadolig gadw plygain yn Mhenypound bob blwyddyn, pryd y traddodid pregeth ar yr achlysur. Ymgynnullai y gwahanol enwadau yno, a theimlent fawr sel drosti. Boreu dydd Nadolig, 1845, sef wythnos cyn sefydliad Price yn y lle, efe oedd i wasanaethu yn y plygain, ac yr oedd dysgwyliad mawr wrtho fel gweinidog dyfodol yr eglwys. Daeth y boreu; yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynnull yn nghyd. Ymddangosodd y dyn ieuanc yn y pwlpud yn amserol, a thraddododd bregeth alluog, yn yr hon y cymmerodd olwg eang ar y Nadolig—ei hanes yn nghyd â thraddodiadau cyssylltiedig ag ef. Condemniodd y plygain fel hen arferiad Babyddol, a chyhoeddodd ddydd ei chladdedgaeth yn y lle. Terfynodd y cyfarfod. Dychwelodd llawer o'r gwrandawyr, yn arbenig yr hen bobl, i'w cartrefi yn siomedig a chlwyfedig. Triniai yr enwadau gwahanol y "Luther" ieuanc oedd wedi dyfod i'r lle, a chondemnient ef am ei ymosodiad beiddgar ar yr hen ddefod a ystyrient yn dra chyssegredig; ond ni thyciodd dim ar Price. Hono oedd y plygain olaf a gynnaliwyd yno, a dywedir mai hi ydoedd y diweddaf a gynnaliwyd mewn capel Ymneillduol yn Aberdar. Dyma osodiad cyntaf y fwyell ar wreiddyn gwyrgam cyfeiliornad gan Price; ond llwyddodd i syrthio llawer o honynt wedi hyny heb dramgwyddo ei gyfeillion goraf, fel y gwnaeth yn yr amgylchiad a nodwn.
Yn mhen ychydig amser wedi dyfodiad Price i Benypound, adroddai y diweddar Barch. W. R. Davies, Caersalem, Dowlais, wrth amryw o'r brodyr un boreu Sabboth, yn nhŷ un o'i aelodau, rhwng ysgol y boreu a'r cwrdd un- ar-ddeg, "fod yn y weinidogaeth lawer o fechgyn fine iawn —yr oeddynt yn rhy fine i godi eu llef yn erbyn cyfeiliorn-