adau, a'u bod, yn herwydd hyny, yn cael eu cyfrif gan y bobl yn ddynion nice iawn. Yr oeddynt yn cerdded trwy y byd yn eu hyslopanau (slippers.) Nid oedd swn eu cerddediad i'w glywed, ac nid oedd llawer yn gwybod am eu bodolaeth; felly, yr oeddynt yn cael pob tawelwch a thangnefedd. Ond am fechgyn gwrol a gonest oeddynt yn codi eu lleisiau yn uchel yn erbyn cyfeiliornadau yr oes, yr oeddynt yn gorfod dyoddef llawer, ac mewn stormydd parhaus. Yr oedd bachgen bach wedi dyfod i Benypound o'r nodweddiad hwn, a Duw a'i helpo," meddai; "nid oedd dim ond stormydd a thywydd garw o'i flaen, oblegyd ni allai na ddywedai yn erbyn pob cyfeiliornad."
Ar adeg dathliad deugeinfed flwyddyn o lafur gweinidogaethol Dr. Price yn Nghalfaria, derbyniodd lythyr caredig, buddiol, a phwrpasol oddiwrth un o'i hen aelodau, William Davies, Ysw., Lawrence, Kansas, a chan ei fod yn taflu goleu ar amgylchiadau yr eglwys yn adeg sefydliad y Dr. yn weinidog arni, credwn mai nid anfuddiol fydd dyfynu rhanau o hono yma. Hoffwn allu ei osod yn gyf- lawn; ond ofnwn ei fod yn rhy faith i wneyd felly ag ef. Darllena fel y canlyn:—
ANWYL FRAWD PRICE,—
Goddefwch i hen gyfaill eich llongyfarch chwi ar ben deugain mlynedd o'ch llafur gweinidogaethol yn Aberdar. I mi y mae yn rhywbeth swynol i edrych ar adeg deugain mlynedd' yn ol a'r amgylchiadau cyssylltiedig. Daethoch chwi i Aberdar yn nghyflawnder nerth eich ieuenctyd, eich arfau yn finiog, a'ch braich yn gadarn. Yr oedd ar yr eglwys a'r ardal eisieu gweithiwr; chwithau yn barod, ewyllysgar, ac awyddus i waith. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn llanc tua 17eg oed, wedi bod yn ddigon hir yn athrofa yr Ysgol Sabbothol yn eglwys fach weithgar Hirwaun, i ddysgu gwerthfawrogi talent a llafur, ac wedi treulio blwyddyn yn Aberdar cyn eich dyfodiad chwi yno, a myfi oedd yr unig ddyn ieuanc yn yr eglwys y pryd hwn. Nid oedd un bugail i arwain y praidd, ond yn unig mewn enw. Nid oedd neb i drefnu na chynllunio pa fodd i ymosod ar gestyll y gelyn, na neb i arwain y fyddin; ond dyma Ionawr 1af, 1846, yn dwyn i fewn gyfnewidiad ar bethau. Yr oedd y dyn priodol yn meddu y cymhwysderau i gynllunio, y medr i arwain, y nerth a'r ewyllys i dori trwy rwystrau, wedi ei gael, ac wele ef ar Ddydd