Calan yn cael ei urddo yn weinidog ar yr eglwys—y calenig goreu allasai hyd y nod yr Arglwydd ei Hun roddi iddi. Deugain mlynedd! Ymddengys y dydd hwnw megys doe yn fy nghof, a thyma chwi wedi eich gadael bron yn unig yn yr eglwys o'r oll oeddynt yn teimlo dyddordeb yn y gwasanaeth yr adeg hono.
"Nid annghofiaf byth eich llafur a'ch pryder y blynyddau cyntaf o'ch gweinidogaeth—chwilio am aelodau sylweddol yn cyfateb i'r enwau ar y llyfr; cael gafael mewn amryw mwy tebyg i feirw na byw; y moddion a arferech: y rhwbio a'r symbylu er ceisio gweled arwyddion bywyd; yr ymdrech gyda'r Ysgol Sul; yr annogaeth i'r ieuenctyd, &c. Yna, dyna ddechreu cynllunio i dori aden y gelyn trwy ymosod arno o'r gogledd, y dwyrain, a'r de, tra yr oedd corff y fyddin fechan a'i safle yn Mhenypound. Nid pob cadfridog feiddiai ranu ei fyddin fel hyn; ac nid heb lawer o bryder, ymgynghori, a gweddi daer, y darfu i chwi wneyd. Gwelsoch amserau ystormus, a rhai cyfarfodydd fuasai wedi lladd un llai gwrol; aelodau anfucheddol a grwgnachlyd a fynent gadw ar Enw Mab Duw a gwasanaethu Belial, y rhai, er hyny, a draddodwyd i Satan a dinystr y cnawd; ond nid heb ymladd cyndyn y gorchfygwyd hwy. Brodyr da, ond camsyniol eu barn a'u teimladau, fuont hefyd yn ddraenen yn eich ystlys dros amser, nes gorfod arfer moddion chwerw tuag atynt, er lles iddynt hwy a'r eglwys. Nid oedd neb yn fwy blin na chwi fod angenrhaid am y fath foddion, ac wedi blynyddau lawer o ystyriaeth, nid wyf wedi gallu gweled un llwybr gwell nag a gymmerwyd; etto, teimlad blin oedd yr eiddoch chwi yr adeg hono, ac oni bai eich gwroldeb anarferol a nerth Duw, buasech wedi rhoddi fyny yr ymdrech, a gadael yr eglwys i ddychwelyd i'w chysgadrwydd cyntefig; ond trwy drugaredd, cawsoch nerth i sefyll rhuthriadau yr holl ystormydd, a dwyn yr achos allan i fuddugoliaeth. Daeth llwyddiant ar y llafur, sain cân a moliant yn Seion, cannoedd yn treisio teyrnas nefoedd. Yn lle ymladd, daeth gwaith magu a meithrin y genedigion newydd, a chyn hir, daeth heddwch fel yr afon."
Y mae yr uchod, ni a dybiwn, yn ddigon i godi ychydig ar gwr llen amser i'n galluogi i edrych yn ol i ddechreuad y deugain mlynedd y sonia yr ysgrifenydd am danynt, a chael cipdrem ar amgylchiadau hen eglwys barchus Penypound pan gychwynodd Price ei yrfa weinidogaethol yno. Dechreuodd ei weinidogaeth yn yr eglwys, fel y dengys y dyddiad, yn nyfnder y Gauaf; ac yr oedd yn ychydig o Auaf ar yr eglwys pan y cafodd hi. "Sonia Mr. Davies am