barod i'r llanw mawr. Yr oedd yn gyfartal i'r amgylchiadau; ac fel cadfridog doeth a medrus, arweiniai y fyddin fechan oedd wedi ei hymddiried gan yr Arglwydd i'w ofal yn llwyddiannus. "Yn awr" yw yr arwyddair sydd yn argraffedig ar faner y doeth. "Yn awr" oedd arwyddair Price, a llwyddodd yn fendigedig gyda'i eglwys ac yn mhob cylch arall y troai ynddo drwy hyny. Er fod gan Price ei anfanteision i ddechreu ei fywyd gweinidogaethol, etto yr oedd ganddo lawer o fanteision, fel yr awgrymir ganddo ef ei hunan. Gellir dweyd fod ei ragoriaethau, ar y cyfan, yn dra dysglaer. Yr oedd ei ddyfodol yn feichiog o addewidion. Yr oedd Aberdar yr adeg hono, fel y cawn nodi yn helaethach yn y man, mewn ystyr yn yr esgoreddfa, yn cael ei geni i fodolaeth odidog. Dechreu ymagor yr oedd, ac yn fuan daeth yn gyrchfan pobloedd lawer—yn ganolbwynt masnach lo y Deheudir. Ac i ddangos hyn yn fwy effeithiol, cymmerwn olwg fanylach yn ein pennod nesaf ar Aberdar fel yr oedd ac fel y mae; yna dychwelwn at yr eglwys a'i gweinidog i'w gweled mewn amgylchiadau uwch a mwy ffafriol.