Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/62

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

ABERDAR FEL YR OEDD AC Y MAE.

Prydferthwch Dyffryn Aberdar—Aberdar yn bentref bychan— Aberdar yn ymddadblygu—Gweithiau glo yn cael eu hagor— Gweithfeydd haiarn—Y boblogaeth yn cynnyddu Y gwahanol fyrddau–Adeiladau cyhoeddus at wasanaeth y dref—Y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar—Achos crefydd yn llwyddo—Price yn cymmeryd rhan flaenllaw yn mhrif symmudiadau y dref—Dynion o fri wedi bod yn Aberdar—Barn Tegai—Ei arwyddeiriau, &c.

FEL yr awgrymasom yn niwedd y bennod ddiweddaf, barnwn, gan fod yr enwog Ddr. Price wedi gwneyd cymmaint o waith, yn lleol, gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol, yn nyffryn poblog Aberdar yn ystod ei fywyd, mai nid anfuddiol i ni yma yw rhoddi ychydig o hanes y dref a'r cylchoedd, er cael ber olwg ar wrthddrych ein cofiant yn ei gyssylltiad â chyfodiad Aberdar a chynnydd y dyffryn mewn modd neillduol. Y mae amser, fel y nodasom mewn cyssylltiad arall, yn gwneuthur cyfnewidiadau mawrion. Ni chawn weled hyny yn fwy eglur nag yn nghynnydd rhyfeddol gyflym rhai o'n trefi, a chyfodiad sydyn pentrefi newyddion yn ngwahanol barthau ein gwlad. Felly y bu unwaith yn hanes dyffryn poblog Aberdar. Triugain mlynedd yn ol, ychydig amser cyn i Thomas Price wneyd ei ymddangosiad yma, gwisgai y dyffryn wedd hollol wahanol i'r hyn a wna yn bresenol. Yr adeg hono gwelid yr afon fechan risialaidd Cynon yn cymmeryd ei gyrfa ogledd—orllewinol i'r de-ddwyreiniol, i waered tuag afon Taf, trwy ganol dyffryn gwastad a ffrwythlawn. Ar ei glenydd ac yn ymestyn yn ol hyd wadnau y bryniau a'r mynyddoedd uchel o bob tu iddi, yr oedd eang feusydd a dolydd breision a thoreithiog—ïe, miloedd o erwau o dir gwrteithiedig, er fod yn fynych i'w gweled yma a thraw elltydd mawrion, coedydd amrywiol, a derw calongaled, yn estyn eu breichiau preiffion a nerthol, ac weithiau megys yn ymaflyd y naill yn y llall nes yr oeddynt, pan eu hysgydwid gan yr ystormydd brochus, fel cynnifer o filwyr