nydd rhyfeddol gyflym y lle, a aeth yn rhy fychan, ac adeiladwyd un eangach yn Canon Street, a elwir yn Neuadd Ddirwestol. Yn 1853 adeiladwyd Marchnad-dy rhagorol yn nghanol y dref, yr hwn sydd lawer mwy o faintioli na'r hen Farchnaddy. Gellir dweyd am dano fel y dywedodd Athan Fardd:—
"Tŷ mawrwych, tô a muriau—osodwyd
Ar sywdeg golofnau
I ddynion drin meddiannau
O'r ych hyd y bresych brau."
Fel yr oedd y dref yn ymgynnyddu, yr oedd y Bwrdd Lleol yn ofalus gyda'r cynlluniau, fel y mae y lle wedi ei adeiladu, ar y cyfan, yn dra chyfundrefnol, a gellir dweyd fod Aberdar yn un o'r trefydd gweithfaol prydferthaf a glanaf yn y Dywysogaeth. Goleuir hi â nwy rhagorol, a chyflenwir y dref a'r dyffryn braidd gan ddyfroedd iachusol o'r dwfr-weithfaoedd mawrion perthynol i'r plwyf. Ceir yma hefyd Gladdfa Gyhoeddus eang a chyfleus; ac yn y flwyddyn 1869, agorwyd Parc Cyhoeddus Aberdar, yr hwn, dywedir, sydd un o'r rhai mwyaf godidog a phrydferth yn y Dywysogaeth. Mesura tua 49 o erwau o dir. Sefydlwyd yma hefyd nifer lluosog o gymdeithasau cyfeillgar a budd-gymdeithasau annybynol, yn mhlith y rhai y ceid yr Odyddion, Iforiaid, Derwyddon, Alffrediaid, Coedwigwyr, yn nghyd â llawer o glybiau arian, fel eu gelwir, y rhai ydynt wedi profi yn dda iawn i laweroedd o bryd i bryd. Cafodd achos crefydd, yn yr un modd, sylw boreuol a dyladwy yma. Mynodd yr Eglwys Sefydledig, fel arfer, le bras yn y pentref yn gynnar. Cawn yr Undodiaid, y Methodistiaid, y Bedyddwyr, yr Annybynwyr, y Wesleyaid, y Presbyteriaid, Mormoniaid a Phabyddion yn codi eu hallorau—yr oll yn egniol i ennill i'w rhengau, ac ychwanegu beunydd at eu nifer a'u nerth.
Yr ydym wedi codi y llen i gael cipdrem ar faes llafur y dyn ieuanc y dywedasom ei fod wedi dechreu ei weinidogaeth yn Aberdar. Yr ydym, mewn ystyr, wedi agor y porth, ac yn gwahodd y sylwgar i edrych ar y prif olygfeydd a gyfodant y naill ar ol y llall yn y cemmaes y bu un o feibion dewraf Cymru yn cyflawnu gorchestion clodus ynddo; ond wrth wneyd hyn, dymunwn eu hadgofio na allwn fynegu "dim o'r hanner," nac ychwaith gyfeirio ond at ychydig o'r gweithredoedd daionas a dyrchafol a gyf-