Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

lawnodd efe yn y cylchoedd hyn yn ystod ei lafur diflino a difwlch am ddeugain mlynedd. Teimlwn nad ydyw yn feiddgarwch ynom i ddywedyd na weithiodd neb yn Aberdar, a thros Aberdar a'r dyffryn yn mhob cylch, a chyda phob symmudiad, yn debyg iddo ef. Nid yn unig y cyflawnai ei waith yn onest ac effeithiol fel gweinidog yr Efengyl—yn ffyddlawn i'w swydd, i'w Feistr, i'w eglwys, ac i'w gyfenwad crefyddol—ond gwnaeth fwy na hyny: cafwyd ef yn ddinesydd godidog, yn gymdeithaswr rhagorol, yn arweinydd cywir, a phob amser yn amddiffynwr y gwirionedd yn mhob cylch y troai ynddo.

Cafodd Aberdar o bryd i bryd ddynion o nôd a dylanwad yn perthyn i bob dosparth. Cafodd berchenogion gweithfaol goludog ac urddasol, marsiandwyr a masnachwyr llwyddiannus a chyfoethog, dysgedigion gwych, beirdd a llenorion addfed, cerddorion enwog, pregethwyr poblogaidd a gweinidogion diwyd a gofalus oll yn cydlafurio i godi y dref yn gymdeithasol, gwleidyddol, moesol, a chrefyddol; ond gwyr y rhai a adwaenent yr enwog Ddr. yn anterth ei nerth, nad ydym yn gorddweyd wrth fynegu ei fod "wedi rhagori arnynt oll. Edrychai pawb ato ef. Cafodd yr arweinyddiaeth un adeg yn hollol yn ei law ei hun braidd yn mhob cyfeiriad, ac ystyrid ef, fel y dywedai y diweddar enwog Hugh Tegai mewn llythyr at ei hen gyfaill talentog Hwfa Môn, gan bawb braidd fel " brenin Aberdar." Ennillodd y safle hon drwy ei fod bob amser â'i lygad yn agored, ac yn gwylio symmudiadau pob peth braidd o bwys yn y dref a'r wlad. Pwy bynag fyddai yn ol, yr oedd efe yn sicr o fod yn mlaen, ac yn cymmeryd y rhan fwyaf blaenllaw gyda gwahanol symmudiadau. Nis gallai fod yn segur. Ffieiddiai ddiogi a musgrellni mewn unrhyw gyssylltiad. Yr oedd "Ymdrech" yn air mawr yn ngeirlyfr ei fywyd. Yr oedd "Llwyddiant" gyda phob achos yn un o'i brif arwyddeiriau; gwelid hwn bob amser yn amlwg ar faner ei weithrediad, ac i'w sicrhau, nid oedd bod yn ngrym y tân mewn brwydrau poethion yn ddim iddo ef. Brwydrodd lawer yn Aberdar a thros Aberdar.

Cafodd y dref ynddo ddyn bob amser yn gyfartal i'r dirangenion alwent am ei wasanaeth; cafodd y tlodion ynddo gyfaill tyner a charedig; cafodd y cymdeithasau cyfeillgar ef yn arweinydd cywir a ffyddlawn; cafodd Ymneillduaeth ynddo ef amddiffynydd diledryw. Lliwiodd yn ddiau wleidyddiaeth y dref a'r dyffryn yn uchel â rhyddfrydiaeth bur,