the Welsh. They are very excitable—have nothing like what is considered elsewhere a disciplined religious mind. They go to the meeting at six, come out at eight, and spend the remainder of the evening in the beershop. There is no religion whatever in my parish, at least, I have not yet found it.
Yn ngwyneb y fath gyhuddiadau pwysig, penderfynodd Price roddi hèr i'r ficer i'w profi. Yn y Principality, papyr ein hen gyfaill, Mr. Tudor Evans, yn awr o Gaerdydd, am Mawrth y 7fed, 1848, cawn hanes y cyfarfod mawr a gynnaliwyd mewn perthynas i'r drafodaeth, yr hwn, yn ol yr adroddiad, oedd y cyfarfod mwyaf brwdfrydig a lluosog a gynnaliwyd yn Aberdar erioed cyn hyny. Bernid fod ynddo tua 2,500 o bobl. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw drwy ei hyspysu yn y modd mwyaf cyhoeddus possibl. Dywedir yn y mynegiad fod y Parch. Thomas Price wedi gwahodd y ficer i ddadleu yr achos yn gyhoeddus; ac ymgymmerodd â gwrthbrofi holl adroddiadau Griffith i'r Ddirprwyaeth. Ar noson y 23ain o Chwefror, 1848, y cynnaliwyd y cyfarfod dywededig. Derbyniodd hèr Price yr atebiad byreiriog canlynol oddiwrth y ficer:—"I will never give you that honour." Yn gweled fod y ficer yn osgoi y gorchwyl anhawdd iddo amddiffyn ei gyhuddiadau, awd yn mlaen â'r cyfarfod dan lywyddiaeth yr enwog D. Williams (Alaw Goch), Ysw., yr hwn wrth gymmeryd y gadair a sylwodd fod y ficer yn berson hollol anaddas i roddi tystiolaeth ar Aberdar, gan ei fod yn gymharol ddyeithr i'r lle. Yna aeth Price, arwr y cwrdd, yn fanwl ar ol y cyhuddiadau wnaed gan y ficer, ac a'u gwrthbrofodd un ac oll. Gan fod eu nodiadau i raddau yn ddarluniadol o hono, gosodwn ychydig o honynt yma:—
"Nid wyf yn gwadu nad oes gormod o feddwdod yn Aberdar; y mae llawer, mae yn wir, yn hoff o yfed yn ormodol, ond nid oedd meddwdod yn nodweddiadol o weithwyr Aberdar (clywch). Nid oedd y Sabbath yn cael ei dreulio i yfed; nid oedd un o 800 yn mynychu y tafarndai. Gyda golwg ar y merched a'r gwragedd yn yfed, galwa am dystiolaeth Sais o'r enw Samuel Garret ar y mater. Gwada Garrett yr adroddiad disail fod y gwragedd i gyd yn dueddol i ymyfed. Nid oedd meddwdod yn nodweddiadol o wragedd a merched Cymru. I gyfarfod â'r cyhuddiad o wastraff ein mwnwyr a'n glowyr, dywedaf fod pobl Aberdar wedi sefydlu yn y 40 mlynedd diweddaf ddim llai nag o