40 i 45 o gymdeithasau oedd a'u hamcan arbenig i ddarparu ar gyfer cystudd ac angeu. Yr oedd eu cyfraniadau i'r cymdeithasau hyn yn £200 yn fisol, ac yn £2,400 yn flynyddol. Hoffwn gael arwain Mr. Griffiths o Hirwaen i Aberdar, mewn trefn i ddangos iddo o 1,500 i 1,800 o dai ydynt wedi eu codi gan y gweithwyr yn unig yn yr ychydig flynyddau diweddaf. Nid oedd y ffaith hon yn siarad llawer yn erbyn arferion darbodus y dosrarth gweithgar. Yr oedd pobl Aberdar at eu rhyddid i addoli Duw yn ol eu tueddiadau a chyfarwyddiadau eu cydwybodau eu hunain. Yr oedd yn rheol sefydlog gan yr eglwysi Ymneillduol i ddiarddelu pawb elent o'r cymundeb i'r dafarn. 46 mlynedd yn ol, nid oedd ond un capel yn y lle, ond yn awr yr oedd 15. 40 mlynedd yn ol 1 Ysgol Sabbothol oedd yn y lle, ond yn awr yr oedd ganddynt o 20 i 25. Am foesolrwydd, daliai efe y safai gwragedd a merched Aberdar mor uchel gyda golwg ar burdeb moesol ag unrhyw ddosparth o wragedd a merched yn y deyrnas. Cyfeiriai y gynnulleidfa er prawf o hyny at y ffigyrau gyhoeddwyd ar y mater gan ei gyfaill, Mr. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar."
Wedi sylwi yn fanwl ar holl gyhuddiadau y Ficer (nid ydym yn gosod ond talfyriad o honynt yma), a'u gwrthbrofi bob yn un ac un, gosodwyd gerbron y cyfarfod amryw benderfyniadau pwysig, y rhai, er rhoddi mantais i'r darllenydd i ffurfio rhyw syniad am y teimladau gynhyrfwyd yn nhrigolion Aberdar am ymddygiad annheilwng y Ficer, a osodwn yma yn yr iaith Saesneg:— — "The Rev. Thomas Price moved, and D Davis. Esq., seconded:—
"I. That this meeting, having read the evidence of the Rev. John Griffiths, Vicar, contained in the Report of the Commissioners on Education in Wales respecting the state of education and morals in the Parish of Aberdare, feels surprised that he, being then a stranger, having resided but a few days amongst us, should have deemed himself competent to furnish the information requested by the Commissioners; while at the same time it begs most distinctly to deny the whole of his statements, if they are intended as a description of the character, position, knowledge, habits. and general deportment of the inhabitants of this place, they being as general statements utterly void of truth. And this meeting begs to express its decided disapproval of his conduct. "Moved by the Rev. W. Edwards, seconded by Mr. W. Lewis, miner:—
"II. That this meeting, while anxious for a better system of education in the place, still considers the report of Mr. Lingen incorrect,