grëedig," ac er ateb eu dybenion, oeddynt yn chwyddedig iawn yn galw eu hunain "The Trade of Aberdare," dan nawdd grefyddol y Ficer a'i churchwarden, fel y dengys yr hyspyslen a gynnwysai y prwygraifft, yr hon oedd fel y canlyn:—
RUSTIC SPORTS.
Suported by the Vicar, Churchwarden, Curates, Gentry. Patrons: The Trade of Aberdare.
Wedi rhoddi enwau y swyddogion a'r pwyllgor cawn y programme, yr hwn a osodwn yma, yn nghyd ag ychydig o nodiadau Price ar yr ymdrafodaeth.
RUSTIC SPORTS, cynwysedig o redegfeydd o amryw gymeriadau. Mae y Trade' wedi gyru allan ddwy hysbyslen bwysig iawn—y naill yn galw ar y masnachwyr oll i gau eu masnachdai am un o'r gloch. gan eu bod hwy, y 'Trade,' yn myned i gael rhedegfeydd ar Heol Caerdydd, o dan nawdd y Trade. Mae yr ail hysbyslen yn cynwys y Programme Mae hwn yn wir deilwng o'r 'Trade;' ac y mae yn ddyogel genym nad oes yr un dosbarth arall yn mhlwyf Aberdar yn feddianol ar dalent a dwlni digonol i gyfansoddi Programme fel hwn. Hysbysir ni fod y 'Trade' yn myned i wobrwyo y buddugoliaethus yn y gorchestion pwysig canlynol: Gyrfa Asynod—yr asyn diweddaf i mewn i enill y wobr.' Talentog dros ben. Gyrfa Asynod, a'r marchogwr i fod a'i ben at gynffon yr asyn—y cyntaf i mewn i enill.' Doniol ac asynaidd iawn. 'Gyrfa o ddynion mewn ffetanau.' Buasai yn fendith fawr pe buasai Superintendent Wrenn yn gosod y 'Trade' mewn ffetan, a'u danfon i Lansawel. Gyrfa o fechgyn o dan 15 oed.' Cynllun y Trade' i ddysgu 'The young idea.' 'Gyrfa o wyr.' Dyma ddull y 'Trade' i wella moesau eu cyd-ddynion. Mewn ffordd o newid—Darn o gig mochyn am ddringo i fyny i drostan wedi ei seimio, er i'r 'Trade' gael testun i chwerthin. Gyrfa o asynod mewn wageni.' Mae hwn yn ddrychfeddwl campus iawn o eiddo y 'Trade,' cael gyrfa o'r natur hyn mewn heol gul, yn cynwys rhyw ddwy fil a haner o ffoliaid wedi eu tynu yno gan y 'Trade.' 'Gyrfa gan ddynion a'u llygaid wedi eu rhwymo, yn gyru o'u blaen ferfa drol.' Prawf o dalent neillduol yma eto. 'Gyrfa rhwng merched o dan 15 oed.' Gyrfa rhwng menywod uwchlaw 15 oed.
'O ddifrif, ddarllenydd, nis gallwn ddilyn y Programme yn mhellach. Onid ydyw peth fel hyn yn ddigon i beri i dy waed di ferwi,—meddwl fod nifer o ddynion yn galw eu hunain y 'Trade of Aberdare,' yn ym-