drechu cael gan fenywod y lle i redeg gyrfa er boddio teimlad anifeilaidd y creaduriaid distadl hyn. Yr oedd y fath gynyg yn warth ac yn ddirmyg iw awdwyr. Beth? A oedd eisieu testun newydd ar ein Vicar i ysgrifenu eto yn erbyn ein merched a'n gwragedd? Mae yn ofid genym feddwl fod Vicar Aberdar, a'i Churchwarden, a'i Guardiaid, yn gallu ymddarostwng i gefnogi y fath gynyg gwarthus i ddiraddio ein merched a'n gwragedd. Mae yn wir na chafwyd gan yr un ferch na'r un wraig i redeg, ond beth am hyny? Nid oes achos i ni ddiolch i'r 'Trade' am hyny; yr oedd eu hamcan hwy yr un; ac nis gellir condemnio y fath gynyg bwystfilaidd mewn iaith rhy lem na syniadau rhy gedyrn.
Yr ydym hefyd yn tystio yn enw llawer o ddynion da, sydd yn dymuno yn dda i Aberdar, nad yw y dyrnaid yna erioed wedi bod, nid ydynt yn awr, ac nid ydynt byth yn debyg o gynrychioli masnachwyr Aberdar. Mae dynion yn mhlith masnachwyr Aberdar, ag sydd yn meddwl yn uwch am eu cymeriadau, na gwneyd y fath asynod o honynt eu hunain ag a wnaeth y 'Trade' dydd Llun diweddaf. Llwyddodd y 'Trade' i gael lluoedd mawr o ffyliaid fel eu hunain yno, a buont yn difyru eu gilydd am ryw oriau, ond cafodd y 'Trade' eu siomi yn niffyg chwaeth y menywod yn peidio rhedeg yn ol y Programme. Mawr barch i'r menywod! Nid ydynt cynddrwg ag y myn rhai i ni gredu eu bod. Paham na fuasai y 'Trade' yn dwyn allan eu gwragedd eu hunain er difyru y dorf. Diddad y buasai yn chwerthingar iawn i weled Mrs. Gawn a Mrs. Nicholas yn ymdrechu am y dorch; a Mrs. Larke a Mrs Samuel. The proof of the pudding is in the eating.' meddai y Sais, a charem ninau i'r 'Trade,' cyn dirmygu gwragedd dynion ereill, dreio'r experiment ar eu gwragedd eu hunain. Ac os yw y fath beth yn rhy isel i'w gwragedd hwy, mae hefyd yn ddirmygedig i wragedd ein gweithwyr gonest. Wedi i'r 'Trade' fod yn chwerthin o glust i glust, ac yn gwhyru fel ceffylau Sir Aberteifi, ac wedi i lawer gael eu hanafu yn druenus a pheryglus, dygwyd y 'Rustic Sports' i derfyniad tua brig yr hwyr, ac aeth y 'Trade' tua thre, i eilliaw eu barfau, ac i lanhau eu danedd, fel rhagymadrodd i'r BALL, a gynelid yn y nos gan y 'Trade' a'u gwragedd a'u merched, am yr hwn bydd genym rywbeth i'w ddywedyd dro ar ol hyn.
"Mae yn ddrwg genym orfod ysgrifenu fel hyn am neb o'n cymydogion; ond gan fod rhyw ddosbarth o ddynion yn honi peth nad yw yn perthyn iddynt, ac yn dewis gwneyd eu hunain yn destun gwawd a dirmyg, rhaid iddynt ddysgwyl y canlyniadau. A pha un a fydd y 'Trade' yn digio neu beidio, tra bydd genym lais i'w ddyrchafu. a phin i ysgrifenu, bydd i ni arfer ein dylanwad yn erbyn y fath weithredoedd a'r rhai a gyflawnwyd dydd Llun diweddaf. Pan fydd y