'Trade' am fyned yn mlaen a gwneyd daioni, bydd yn hoff genym eu cynorthwyo; ond pan geisiant ein llusgo yn ol gan mlynedd, bydd i ni geisio gosod y Sprag yn yr olwyn, gan ymestyn at adael Aberdar yn well nag y cawsom ef; o leiaf, peidiwn er dim a'i wneyd yn waeth.
Yn y brwydrau godidog hyn, ennillodd Price sylw a pharch mawr, nid yn unig drigolion Aberdar a'r cylchoedd, ond hefyd ei gydwladwyr yn dra chyffredinol; oblegyd edrychid arnynt nid fel brwydrau lleol, eithr fel ymdrechion clodwiw i amddiffyn cymmeriad y genedl, cadw a dyogelu urddas y rhyw fenywaidd, a dyrchafu'r wlad yn ngwyneb yr ymgais fwyaf waradwyddus i'w darostwng. Gwelid ynddo y dyngarwr twymgalon, a'r gwladgarwr anwyl a diffuant. Cafodd drwy ei wroldeb le cynhes yn serch y dosparth gweithgar, a sedd urddasol yn nghalonau tyner a serchgarol merched a gwragedd Aberdar, am ei ddewrder yn eu hamddiffyn. Ac er rhoddi prawf ymarferol o'u serch a'u teimladau da ato, gwnaethant dysteb werthfawr iddo, yr hon a gyflwynasant iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ebrill, 1848. Yn y Gweithiwr, newyddiadur a gyhoeddid y pryd hwnw gan y Parch. J. T. Jones, am Ebrill 16eg, 1859, daethom o hyd i bryddest odidog o glod i'r Parch. Thomas Price, Rose Cottage, Aberdar, am ei amddiffyniad i ferched Aberdar, buddugol yn eisteddfod flynyddol Llanelli. Carwn allu ei gosod yn gyflawn i mewn yma, ond nis gallwn yn herwydd ei meithder; eithr dyfynwn ddarnau o honi, gan ei bod mor ddesgrifiadol o'r amgylchiadau ac mor nodweddiadol o'r gwrthddrych. Am Price fel gwladgarwr dywed:—
"Ei enaid mewn digter a ga ei gynhyrfu, |