yn arwain, ac ar ei ysgwydd ef y gosodid y baich trymaf bob amser. Dichon mai nid annyddorol yma fyddai i ni ganiatau i Price roddi, yn ei ddull doniol ei hun, hanes byr o gychwyniad addysg rydd yn Aberdar. Mewn ysgrif ganddo yn Seren Cymru am Tachwedd y 4ydd, 1864, edrydd a ganlyn, dan y penawd—
"ABERDAR AC ADDYSG RYDD.
"Llawer tro ar fyd sydd wedi cymeryd lle er pan y cynnaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Carmel, capel y Methodistiaid Calfinaidd ar odre'r commin, fel y dywedid gynt, o dan lywyddiaeth yr hybarch E. Griffith, tywysog crefyddwyr Aberdar y pryd hwnw, er ceisio esponio beth oedd Ysgol Frytanaidd. Yr oedd yno gyfarfod llawn wedi dyfod at eu gilydd er gweled yr anifail newydd, oedd Edwards a Price wedi ei ddwyn i'r lle, o dan yr enw British School; yr oedd awydd mawr am weled sut greadur oedd y British School. Yr oeddem wedi llwyddo i gael gwr boneddig haelfrydig o le pellenig —mae bron cywilydd arnom nodi y ffaith i ni ei gael o Talgarth, Sir Frycheiniog—a dau neu dri o fechgyn bach ieuainc gydag ef, er mwyn dangos i drigolion Aberdar beth oedd British School Daethom i adnabod y creadur newydd trwy ganfod ei ddull o gyfranu addysg i blant y gweithwyr; ac erbyn diwedd y cyfarfod cyhoeddus, deallasom mai math o beiriant addysgol oedd y British School. Yr oedd hyn, cofied y darllenydd, tua dwy flynedd ar bymtheg yn ol; yr ydym yn gallach yn awr. Mae ysgol y Commin a'r British School erbyn hyn fel geiriau teuluaidd gan gannoedd o honom. Yn y flwyddyn 1846 yr oedd Ysgol Frytanaidd i Aberdar yn gorwedd yn meddyliau y Parch. W. Edwards, Ebenezer, a'r Parch. Thomas Price. Llawer gwaith y bu y ddau hyn yn siarad, yn cynllunio, ac os nad ydym yn camsynied, yn gweddio uwchben y pwnc o gael ysgol dda i Aberdar, mewn lle cyfleus i'r trigolion, yn y "pentref," fel y dywedid, a Heolyfelin. Daeth yr adeg i'r ddau frawd deimlo pulse ereill; ac awd ati yn araf bach, nes ennill blaenoriaid y cynnulleidfaoedd yn lled gyffredin. Derbyniasant gynnorthwy parod y Parch. David Price, Siloa; y Parch. Josuah Thomas, o Saron y pryd hwnw; ac yn absenoldeb gweinidog trigiannol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cafwyd pob cefnogaeth gan y diweddar Mr. Evan Griffiths, yr hwn oedd yn llu ynddo ei hun, ac a fu gyda ni tra y bu byw; a diolch i'r Arglwydd, y mae ei blant parchus gyda'r ysgol hon law a chalon o ddyddiau eu tad patriarchaidd hyd yn awr. Yn nesaf, ennillwyd y diweddar Alaw Goch, a'r teulu oll, Mrs. Williams, Gwilym, Gomer, a Gwladys, oll yn gyfeillion