Teimlai Price yn ddedwydd, a llawenychai yn ddirfawr wrth weled manteision addysg yn cynnyddu i blant Aberdar, yn y rhai y teimlai ddyddordeb neillduol bob amser; ond nid oedd yr hyn a roddir uchod ond toriad gwawr at a gafodd weled cyn gorphen ei yrfa ar y ddaear. Ni orphwysodd yn segur (ni allai wneyd hyn), eithr gweithiodd yn galed dros ac o blaid addysg yn Aberdar a manau ereill. Y fath oedd ei ymdrechion a'i sel gyda phwnc addysg, fel yr ystyriwyd ef yn addas i'w benodi i ddadlu ei hawliau yn Siroedd Morganwg a Mynwy. Tua'r flwyddyn 1848, pennodwyd ef gyda yr enwog Hybarch John Thomas, D.D., L'erpwl, i fyned am daith am fis trwy y siroedd a nodwn, er cynnal cyfarfodydd ar "Addysg," a chasglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Cymmerwn fantais i gyfeirio at y daith hon etto yn mhellach yn mlaen.
Cymmerodd Price ran flaenllaw iawn gyda y dosparth gweithgar yn Aberdar, gan eu harwain yn mrwydr fawr Reform Bill y diweddar enwog John Bright, yn y flwyddyn 1859, ac ysgrifenodd lawer atynt yn y Gweithiwr ar y mater. Mynychai eu cyfarfodydd, taflai ei enaid mawr a'i yspryd tanllyd i'w areithiau pan siaradai am y diwygiadau a hawlient fel gweithwyr, yn gystal a'r breintiau oedd yn ddyledus iddynt. Gweithiodd i fyny ddeisebau i'w hanfon i'r Senedd, ac ysgrifenodd ar y materion at Arglwydd Derby a John Bright, y rhai a ddiolchent iddo am y dyddordeb a'r rhan flaenllaw a gymmerai yn mhrif bynciau y dydd. Bu hefyd mewn llawer gornest galed a thanllyd dros y glowyr. Efe oedd bob amser yn cymmeryd eu plaid, ac yn dadleu eu hawliau. Gwnaethai hyny drwy siarad ac ysgrifenu. Yr oedd yn hynod o lygadgraff, ac yn deall cwrs trafnidiaeth yn hynod o dda. Proffwydai weithiau gyda llawer o gywirdeb am ddynesiad dyddiau celyd, tywydd garw, ac ystormydd blin i'r "gweithiwr gonest", fel y galwai ef; a chyhoeddai bryd arall â llais clir o bell, "The good times coming, boys." Ysgrifenodd lawer ar bynciau perthynol i'r glowyr, a gwnai hyny yn gyffredin, fel pe buasai yn lowr profiadol ac ymarferol. Yr oedd fel pe gartref gyda phob dosparth. Dywedai ei feddwl yn eglur a difloesgni. Ni ofalai am dramgwyddo meistr mwy na gweithiwr. Mewn gair, byddai yn fwy dibwys ganddo i ddigio y blaenaf na'r olaf; oblegyd meddai barch neillduol at y gweithiwr. Ac er ei fod yn fynych, drwy y rhan flaenllaw a gymmerai yn symmudiadau gweithwyr Aberdar,