yn gwrthdaro yn erbyn y meistriaid; etto, edmygid a pherchid ef yn fawr ganddynt, oblegyd teimlent a gwyddent fod ganddynt ddyn gonest yn Price. Dywedai y Dr. yn gryf yn erbyn y gweithiwr heb ofni ei wg pan fyddai amgylchiadau yn galw am hyny; ond camddeallid a chamfernid ef yn fynych ganddynt, a rhoddent iddo y wialen yn drom; etto, ni allent oddef i neb arall ei rhoddi iddo. Ni allent oddef i neb ddweyd na gwneyd dim yn ei erbyn. Mewn amgylchiadau croes a chynhyrfus weithiau yn gyssylltiedig â'r gweithfeydd, suddai y Dr. fel llong yn rhyferthwy yr ystorm o dan donau mynyddig o anmhoblogrwydd. Bryd arall gwelid ef yn ddyrchafedig yn eu plith, ei lestr yn ei lawn hwyliau. Gosodid ef nid yn yr ail gerbyd, fel Joseph gynt, eithr c'ai ganddynt y cerbyd blaenaf, a llefent o'i flaen ef, "Abrec." Ysgrifenodd lu mawr o ysgrifau galluog ar wahanol bynciau dyddorol a phwysig yn dwyn perthynas â'r gweithwyr ac â'r gweithfeydd yn ystod ei fywyd yn Aderdar, yn neillduol yr ugain mlynedd cyntaf o'i fywyd yno. Ysgrifenodd yn alluog ar y pynciau canlynol, y rhai yn unig a nodwn yn enghraifftiol o'r cyfeiriadau gymmerai yn ei berthynas olygyddol â'r gweithwyr:— "Glowyr Aberdar eu sefyllfa a'u hawliau;" "Richard Fothergill, Ysw., a'r Puddlers;" "Y Glowyr;" "Strikes;" "Glowyr Aberdar a'r Meistri;" "Y Gweithwyr Tân a'u Cyflogau;" "Moesoldeb y Truck System;" "Sefyllfa y Gweithwyr yn y Blaenau;" " Ymddygiad Cynghorfa Genedlaethol y Mwnwyr; "Beth am yr Undeb (y gweithwyr);" "Ein Gweithwyr: eu barn am natur yr Undeb ddylai fod;" "Trecha treisied, ond trech gwlad nag arglwydd;" "Undeb y Glowyr yn Aberdar;" "Glowyr Aberdar a'r Cyfyngiad (restriction);" "Sefyllfa Masnach y Gweithiau Cotwm;" "Beth am y Dyfodol?" "Y Gweithiau Cotwm: Beth ydyw y Dysgwyliad?" "Y Double Shift;" yn nghyd â lluaws ereill o'r un natur allem eu nodi. Gellir dweyd ei fod yn awdurdod ar y materion hyn, ac yn dra dyogel i'w ddylyn, er ei fod weithiau yn gwneyd rhai camsyniadau, ac felly yn cael ei feirniadu yn dra llym, a gorfodid ef mewn rhai achosion i groesi cleddyf, hyd y nod â'r dosparth gweithiol, y rhai a garai mor fawr, ac yr ymladdai gymmaint drostynt. Weithiau derbyniai gam oddiar eu dwylaw, yn herwydd eu bod yn ei farnu yn rhy frysiog. Gwelai ef yn mhell yn mlaen. Deallai droad amgylchiadau, a gallai ragfynegu gyda gradd helaeth o gywirdeb ganlyn-
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/84
Gwirwyd y dudalen hon