PENNOD VIII.
EGLWYS CALFARIA A'I CHANGENAU HYD 1866.
Calfaria hyd 1866—Hanes dechreuad yr Achos Bedyddiedig yn Aberdar—Adeiladu y capel cyntaf—Y gweinidogion cyntaf—Galwad Price—Ei derbyn—Yn llwyddiannus—Ei briodas—Gras a Rhagluniaeth yn cydweithio—Marwolaeth ei briod—Ei ymroad gyda'r gwaith—Yr eglwys dan ei ofal yn llwyddo—Yn dyfod yn enwog—Ei allu i drefnu a chynllunio—Ei yspryd rhyddfrydol—Eangu yr achos—Ei adroddiad o ddosparthiad y cylch—Trem 1885—Sefydlu gwahanol eglwysi—Y Bedyddwyr yn cynnyddu—Adgyfnerthion yr eglwys—Undeb Cristionogol—Undeb Dorcas, &c., &c.—Price yn gyfundrefnol—Cael cydweithrediad y diaconiaid—Ei gyssylltiad â'r Ysgol Sabbothol—Ei gynlluniau yn nglyn â hi—Price a Shem Davies—Price a'r ysgol ganu—Evan Jones—Yn y Gadlys—Arweinwyr y canu—Y Cor—Llechres aelodaeth yr eglwys—Ei fanylwch—Sefyllfa Calfaria ar ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniol wedi bod—Anhawsderau yn diflanu Crefydd yn llwyddo.
YN ol Juwbili Eglwys Calfaria, llyfr bychan a gyhoeddwyd gan Dr. Price yn y flwyddyn 1863, cawn fod hanes dechreuad yr achos Bedyddiedig yn cyrhaedd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1790, pryd yr oedd Mr. David Oliver o Ystradyfodwg yn dyfod drosodd yn achlysurol i bregethu yno. Bendithiodd yr Arglwydd ei ymdrechion ef ac ereill i ddychwelyd eneidiau at y Gwaredwr; ac yn y flwyddyn 1791, bedyddiwyd pedwar o bersonau, y rhai a dderbyniwyd yn aelodau yn yr Ynysfach, Ystradyfodwg, ac nid oes genym wybodaeth bellach am danynt, nac ychwaith am achos yn Aberdar hyd y flwyddyn 1806. Yr adeg hono daeth dau frawd i'r lle o'r enwau Lewis Richards, yr hwn a fu am hir flynyddau yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Mhenyrheol, a Howell Evans. Yr oedd y ddau hyn yn Fedyddwyr. Cynnalient gyfarfodydd gweddio mewn tŷ annedd, yr hwn a adnabyddwyd am flynyddau wedi hyny wrth yr enw "Capel Bach."