Hughes, Goruchwyliwr Glofeydd Abernant, a Margaret ei wraig; ac y mae yn llawen gan yr ysgrifenydd nodi eu bod yn aros hyd heddyw, ac er eu bod wedi methu bron gan henaint a gwendid, y maent yn garedig i'r achos, a buont yn gyfeillion mynwesol i'r Dr. hyd ei fedd.[1] Cafodd Price yr hyfrydwch o fedyddio amryw o'u plant, y rhai a ddygwyd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
Yn y flwyddyn 1847, yr oedd Price wedi cael ychydig o amser i adnabod ei hun, ei eglwys, a'i gymmydogaeth, ac yr oedd yn awr yn dechreu ymbarotoi i dori allan waith i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mewn trefn i'w alluogi i wneyd mwy ei hunan, a chael safle uwch i ddylanwadu ar ei bobl a'i gymmydogion yn gyffredinol, penderfynodd ymsefydlu yn y byd, fel y dywedir, ac yn gynnar yn 1847, priododd â boneddiges gyfoethog o ddisgyniad a llinach yr hen deuluoedd parchusaf a mwyaf cyfrifol y dyffryn. Cawn hanes y briodas wedi ei groniclo yn gyflawn gan yr enwog Lleurwg yn ei ysgrif ragorol ar Dr. Price yn y Geninen am Gorphenaf, 1888, yr hwn a edrydd fel y canlyn:—
Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ei ordeinio, sef ar yr 16eg o Fawrth, 1847, ymunodd mewn priodas ag un o'r boneddigesau mwyaf goleuedig a pharchus, nid yn unig yn Aberdar, ond hefyd yn yr holl wlad. sef Mrs. Ann Gilbert, merch ieuengaf Thomas David, Ysw., Abernantygroes. Cymmerodd y briodas le yn Nghapel Carmel, Pontypridd; a'r gweinyddwr oedd yr enwog a'r athrylithgar Barch. James Richards, gweinidog yr eglwys yn Ngharmel. Ganwyd iddynt ddau o blant, sef mab, yr hwn a fu farw yn ei fabandod, a merch, yr hon a enwyd Emily, yr hon a adawyd iddo gan Ragluniaeth ddoeth a charedig i'w gysuro yn ei fywyd, ac i alaru ar ei ol. Yn fuan ar ol hyn, sef yn 1849, bu farw y ddoeth a'r addfwyn Mrs. Price; a chafodd yntau ei adael gyda ei ferch fechan yn ngwaelodion glyn unigrwydd, hiraeth, a galar. Ni fu son am ail briodas iddo ; ond o ddydd claddedigaeth ei mam daeth ei anwyl Emily yn ganolbwnc ei ofal a'i serch teuluaidd. Cafodd y cysur a'r fendith anmhrisiadwy o weled ei anwyl blentyn yn tyfu i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan gynnyddu mewn rhinwedd a phob gras a dawn naturiol ac ysprydol, nes y daeth yn addurn i gymdeithas, ac yn anrhydedd i'r Eglwys Gristionogol. Duw, o'i fawr ddaioni, a fyddo iddi yn bob peth angenrheidiol yn ei hunigrwydd, ei hymddifadrwydd, a'i galar mawr presenol. Arweinied bi trwy y byd hwn a'i gynghor, ac wedi hyny cymmered hi i ogoniant.
- ↑ Wedi ysgrifenu yr uchod, bu farw Mrs. Hughes.