Gwelir yn eglur fod Price, pan oedd yn dechreu tynu allan a mabwysiadu mesurau a gyfiawnhawyd gan amgylchiadau dylynol i gyflawnu ei waith fel Efengylwr, gweinidog, a duwinydd, a llafurio yn helaeth yn ngwinllan yr Arglwydd, yn gystal ag mewn cylchoedd pwysig ereill, a phan yr oedd haul dysglaer a thanbeidiol ei fywyd fel codiad haul y boreu, yn dechreu gwasgar ei oleuni claer i gyfeiriad yr Eglwys Gristionogol a'r byd yn wleidyddol a chymdeithasol, wedi cael saeth wenwynig i frathu ei deimladau tyner. Cododd cymmylau duon aeth ac helbul yn herwydd angeu drosto; ymruthrodd tymhestl erwin arno; disgynodd dalen chwerw i'w gwpan a redai drosto o fwyniant a hoenusrwydd ieuengaidd; ac ofnid y digalonai ac y diffygiai ei yspryd bywiog yn y brofedigaeth lem gafodd yn marwolaeth ei anwyl briod; ond cynnaliwyd ef i fyny gan yr Arglwydd. Ac yn herwydd bywiogrwydd naturiol ei feddwl, ymadnewyddodd yn fuan drachefn, ymaflodd yn holl ranau ei waith megys cynt, ac aeth yn mlaen ag ef yn egniol a phenderfynol. Er fod Price wedi cael colled fawr yn marwolaeth Mrs. Price, oblegyd yr oedd yn foneddiges oedd yn llawn o rinweddau fyddent yn dra chynnorthwyol iddo ef fel gweinidog ieuanc, ac yn fanteisiol iawn i'r eglwys a'r achos yn y lle; etto, bu priodas Mr. Price yn neillduol o fanteisiol iddo drwy ei oes. Er mai amser byr iawn y buont fyw gyda'u gilydd, yr oedd ei hyspryd caredig digyffelyb hi, ei synwyr cyffredin cryf, ei haddysg foreuol a'i diwylliant meddyliol, yn nghyd â'i gwylder a'i lledneisrwydd, wedi dylanwadu yn fawr ar ei feddwl, ac yr oedd teithi rhagorol ei chymmeriad pur wedi eu hargraffu yn ddwfn yn ei yspryd a'i deimlad, a diau genym fod hyn wedi llywio ei fywyd i raddau helaeth iawn. Hefyd, cafodd Price drwy ei briodas gyfoeth mawr, a gwyr pawb nad yw cyfoeth, ond ei iawn ddefnyddio, yn anfanteisiol yn y weinidogaeth. Yr ydym yn gwybod am rai gweinidogion wedi bod yn ffodus i gael cryn lawer o " dda y byd hwn," y rhai, er nad oeddynt yn sefyll yn neillduol o uchel yn eu dysg, eu talent, a'u dawn i bregethu, oeddynt yn boblogaidd, ac yn meddu ar ddylanwad mawr, a hyny yn benaf am fod y fodrwy aur yn eu meddiant. Ond nid felly gyda Price. Bu ei gyfoeth yn fanteisiol iddo yn ei wahanol gylchoedd a'i gyssylltiadau, er y gallasai drwy ei ddysg, ei dalent, a'i alluoedd naturiol braidd digyffelyb, fod wedi gwneyd ei farc yn ac ar y byd hebddo; ond y mae yn ddyogel genym
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/92
Gwirwyd y dudalen hon