Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/93

Gwirwyd y dudalen hon

Calfaria a'i changenau hyd 1866. ei fod am y pum' mlynedd ar ugain cyntaf o'i weinidogaeth wedi gallu gosod ei farc yn eglurach a llawer uwch drwy ei gyfoeth nag a allasai pe heb ei gael.

Yn fuan iawn, er gwendid dechreuol yr achos, a dygwyddiadau croes ac adfydus, aeth enw a gweithrediadau yr eglwys yn Mhenypound, fel eiddo ffydd yr Eglwys Gristionogol gynt yn Rhufain, yn “gyhoeddus yn yr holl fyd" braidd. Nid ydym yn gwybod am un eglwys gyda y Bedyddwyr, nac un cyfenwad arall yn y Dywysogaeth, wedi gwneyd mwy o waith sylweddol, ac wedi bod am gynnifer o flynyddoedd mor llwyddiannus. Dichon fod dirgelwch y llwyddiant i'w briodoli, i fesur helaeth, i'r gweinidog llafurus, Thomas Price. Yr oedd ynddo allu annghydmarol i drefnu a chynllunio. Y mae llawer iawn gan gynlluniau effeithiol i'w wneyd â llwyddiant unrhyw achos. Ystyrid Price gan bawb a'i hadwaenai yn dda yn un o'r trefnwyr goreu. Dywediad cyffredin gan bobl Aberdar, wrth son am y Dr. fel gweithiwr caled yn ei eglwys, ac o'r tu allan o ran hyny, yw, "Hen manager rhagorol yw y Dr., mae ei gynlluniau oll yn ystwyth ac effeithiol iawn." Dim ond iddo ef gael y defnyddiau gwnelai y gwasanaeth goreu o honynt. Yr oedd yn gadfridog diguro, a gallai wneyd difrod ar rengau y gelyn â byddin gyffredin; oblegyd yr oedd yn llu ynddo ei hun.Yr oedd efe yn beiriannydd godidog, a gwnaethai waith mawr yn fynych, er i'r peiriant fyddai dan ei ofal fod i raddau yn ddiffygiol. Un o'r rhagoriaethau cyntaf ddadblygodd Price yn ei gyssylltiad â'i eglwys oedd y gallu i gynllunio, a'r medr i iawndrefnu ac arwain i lwyddiant hyd y nod yn ngwyneb yr anhawsderau mwyaf. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddawn ragorol arall, sef y gallu i weled y defnyddiau goraf i ateb ei bwrpas i gyrhaedd ei amcanion a sicrhau llwyddiant gyda phob symmudiad. Fel hyn cawn ef yn dewis yn ei eglwys y dynion cyfaddasaf i'r cylchoedd oedd i'w llanw ac i'r gwaith oedd i'w gyflawni. Amgylchynid ef gan ei ddiaconiaid gofalus, y rhai bob amser oeddynt yn barod at ei alwad; ond os y gwelai efe fod yn ei eglwys aelod cyffredin yn gyfaddasach i'r gorchwyl, elai heibio y diaconiaid yn foesgar at hwnw, gosodai ei law ar ei ysgwydd neu ar ei ben, cyfarchai ef yn siriol a charedig, a chyfeiriai allan y gwaith iddo. Gosodai y drefn o'i flaen, ac fel cadfridog penderfynol ac awdurdodol, dysgwyliai i'w orchymynion gael eu cyflawni, ac yn gyffredin gwneid hyny yn ddi-