rwgnach ac ewyllysgar. Fel cadlywydd hyfedr, yn deall ei faes a'i safle, tynai allan ei gynlluniau yn ofalus ac effeithiol, i gadw nid yn unig y tir oedd yn ei feddiant yn barod, ond hefyd i ennill meusydd newyddion. Nid oedd Price yn geidwadol ei yspryd mewn dim braidd, ond i'r gwrthwyneb. Yr oedd yn neillduol o rydd yn ei holl gyssylltiadau crefyddol. Yr oedd efe yn dra rhyddfrydig ei yspryd gyda golwg ar ledaenu yr achos a sefydlu eglwysi newyddion. Nid oedd efe, fel llawer o frodyr da a welsom yn y weinidogaeth Efengylaidd, yn hunangar (selfish), am ddenu, ennill, a chadw pawb yn ei Jerusalem eu hunain, ac heb ofalu dim yn mhellach am yr achos nag oedd yn angenrheidiol i gadw eu temlau hwy yn weddol gysurus. Na, tra yr ydoedd efe yn ofalus am ei Jerusalem, ac yn gwneyd ei oreu i gadw ei deml ei hun yn llawn, yr oedd hefyd yn ymegnio i wasgaru yr achos yn mhob cyfeiriad. Credai fod cymmaint o eisieu Efengyl ac achos yn "Samaria " a “Judea” ag oedd yn Jerusalem, ac yr oedd Price o'r un yspryd a'r Apostol Paul, am lanw Efengyl Crist hyd Illyricum, ei gylch, a phlanu yn helaethach ynddo eglwysi y Duw byw. Gweithiai ei oreu i gadw canolbwynt ei gatrawd yn gryf, etto nid esgeulusai esgyll ei fyddin. Yr oedd pob rhan o'r maes mawr oedd yn agored iddo yn cael ei sylw a'i ofal manylaf. Un o'r pethau cyntaf wnaeth wedi i'r achos godi ychydig, ac i'r eglwys gynnyddu, oedd ei rhanu yn bedwar dosparth, er dwyn yr ardal yn fwy cyffredinol dan ei dylanwad. Edrydd Price yn naturiol hanes rhaniad y tir a dosparthiad y gwaith, yn nghyd â'r canlyniadau dymunol o hyny fel y canlyn yn ei Jubili:
Dechreuwyd Ysgol Sul yn Abernant, lle y penodwyd ar frodyr o ymddiried i ofalu am arolygu yr ysgol, ysgrifenu i'r ysgol, ymweled dros yr ysgol, un arall i ofalu am y canu, un arall i drefnu y cyfarfodydd gweddio, a'r cwbl o dan arolygiaeth gyffredinol ein hanwyl frawd John Thomas. Ffurfiwyd dosparth arall yn gynwysedig o Heolyfelin, Llwydcoed, Tregibbwn, a Thai Penywaen. Rhoddwyd yma swydd i bob brawd, a phob brawd ei swydd, a'r cwbl o dan arolygiaeth ein hanwyl frawd Thomas Dyke. Ffurfiwyd trydydd dosbarth yn Aberaman. Yma yr oeddym yn ffodus iawn i gael gwasanaeth gwerthfawr ein brodyr hoff John Davies, John Protheroe, Rees Jones, Thomas Evans, Grocer, ac ereill, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai