Ac onid yw yn garedig iawn yn yr Adgofion hyn ymweled â mi? Beth pe y gadawent fi i gyfrif rhuthriadau y peswch, i edrych ar lesni fy ewinedd, i fesur amgylchoedd fy nghoes a'm braich, i wrandaw curiad neidiol ac ansefydlog fy nghalon, neu i deimlo y poen dibaid yn fy ystlysau a'm hysgwyddau? Byddwn yn druenus Ond mae yr Adgofion hyn fel elfodau caredig o fro arall yn fy nwyn yn ol i ddyddiau dedwyddach, mewn rhyw ystyr, na'r rhai sydd yn disgyn i'm rhan yn bresennol. Eto danghosant i mi nad oeddwn yn mwynhau dedwyddwch digymysg y pryd hwnnw, a chadwant fi rhag gofidio o herwydd fy nghyflwr diymadferth presennol. Nid ydyw yr Adgofion hyn, wrth reswm, yn perthyn dim i neb ond fy hunan; ond gan eu bod yn gwneyd lles i mi, dichon y cyfarfyddant lygaid rhyw gyd-greadur cystuddiedig, ac y gwnant les iddo yntau drwy arwain ei feddwl yn ol i oriau diddan mebyd. Y mae ynddynt ryw felusder, ac nis gallwn byth sugno yr holl felusder o un gwrthddrych cyfreithlawn. Nid yw y wenynen yn cludo ymaith holl ddefnydd mêl y blodeuyn; ac os dewiswn ninnau edrych yn ol ar oriau mebyd, cawn allan na fwynhasom eu holl hyfrydwch pan yn eu treulio.
Y lle cyntaf i mi wybod rhywbeth am dano oedd tŷ o'r enw Bryn Tynoriad, yn nhref-ddegwm y Brithdir Uchaf, ym mhlwyf hirfaith Dolgellau. Nis gallaf ddywedyd beth ydyw ystyr "Tynoriad," os nad yw yn arwyddo llain o dir gwastad, gwastadle, neu ddyffryn bychan. Y mae hyn yn burion ystyr iddo, ac o ran dim a wn i, dyna ydyw mewn gwirionedd. Am Fryn Tynoriad nid oes gennyf ond ychydig o gof, gan i mi adael y lle pan yn flwydd ac wyth mis oed. Yr wyf yn cofio fod gallt y Wenallt ar gyfer y tŷ, ffridd y Celffant wrth ei gefn, ac afon Wnion o'i flaen. "Celffant," yn ol Geirlyfr Meirion, yw "diogi;" ac nid anhebyg gennyf nad oedd caledwch, gerwindod, ac anffrwythlondeb y lle hwn yn ddigon i yrru un dyn yn ddiog. Cafodd ei arloesi ymhen blynyddoedd ar ol ein hymadawiad ni â'r lle; ac fel y digwyddodd, yr oedd gan fy nhad ran yn y gwaith. Yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn myned i edrych am dano yno, a dyna y pryd y ffurfiais fy meddylddrychau am yr annedd y'm ganed ynddi.
Yr oedd erbyn hyn wedi ei throi yn feudy. Troais o fy llwybr i edrych arni. Amgylchais y ty yn ol ac ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y'm ganesid; ac fel yr oeddwn yn myned yn ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed o'r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw. Yno y'm brys-fedyddiwyd