rhag fy marw yn ddifedydd, a chael yr helbul o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milldir o ffordd o'r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a'r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf, ac yno y cyneuwyd ynnof y ganwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan. Nid oedd waeth mai beudy ydoedd yn awr, ac mai yr anifail ydoedd fy olynydd—yno y dechreuaswn i y dirgelwch mawr o fywyd. Yno y dechreuodd fy ngenau archwaethu—yno y disgynnodd gwrthddrychau ar rwydell fy llygaid nes i mi weled—yno y tarawodd tonnau swn ar fy nghlust nes y clywais—yno y dechreuodd peiriant rhyfedd y galon weithio, yr hwn sydd hyd yma heb sefyll, er fod hir gystudd wedi ei wasgu ymhell o'i le naturiol—ac yno y dechreuais deimlo a meddwl. Pa waeth oedd i mi beth oedd y lle yn awr? Buasai yn gysgodfa i mi yn nyddiau gweinion mebyd—atebasai ei ddiben y pryd hwnnw; ac er fod cysylltu maes at faes yn awr wedi troi annedd dyn yn dy yr anifail nid oedd i mi yn llai dyddorol. Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn farw. Yno y dechreuais fy llwybr i'r wybrenau, ac yno y dechreuais fy ffordd i'r bedd. Pwy allai ymweled â'r fath le heb deimlo iasau o syndod prudd—fyfyriol yn rhedeg drwy ei galon? Nis gallwn i, ac ymdroais yn hir yn ymyl lle fy ngenedigaeth; ac er i mi ei weled gannoedd o weithiau ar ol hynny, eto ni bum byth yn ei ymyl nac o'i fewn, er fod cefnder i mi wedi ei hir breswylio.
Lle tawel neillduedig ydoedd, yn sefyll, fel y crybwyllwyd, yn nyffryn main yr Wnion. Nid oedd un ty yn agos iawn iddo, ac nid oedd y lle yn nodedig am ddim ond unigrwydd gwladaidd. Nid pell iawn oedd Coed y Ddôl, lle y ganesid y diweddar Barch. David Jones, o Dreffynnon; ac ar y brif-ffordd yn gyfagos, yr oedd dau le enwog ar y daith o Ddolgellau i'r Bala, sef Tafarn Drws y Nant, a Thollborth y Ronwydd. Dichon nad oedd dau le mwy nodedig yr amser hwnnw o Langollen i Ddolgellau. I dollborth y Ronwydd y canodd Mr. Titley, o Gaerlleon, ymhen blynyddoedd wedi hynny.—
"Adeilad wael, ac ddim yn ddiddos,
Heb wely clyd i orwedd y nos."
Lle nodedig oedd yr ardal hon am eglurdeb yr enwau oedd ar y tai. Nid oeddynt yn amgen nag ansoddeiriau lleol. Enw nant oedd y Rhonwydd, yr un a Rhondda y Deheudir, a Rhein y Cyfandir. Wnion yw enw yr afon a ddechreua lifo tua Dolgellau oddiwrth fargod y Pant Gwyn, heibio i Ddrws y Nant uchaf, y Pant Clyd,