Dyfn-nant, a Gallt y Gwinau, ac islaw y Cae Coch, nes cyrraedd Dol y Ddeulif, lle yr oedd afon arall yn ei chyfarfod. Yr holl enwau hyn ydynt yr un mor briodol heddyw a'r dydd cyntaf eu harferwyd. Ymddengys fod gan amgylchiadau lawer llai i'w wneyd âg enwi tai yr ardal hon, na'u sefyllfa. Ar lan afon Gawr, cawn Esgair Gawr yn sefyll ar drumell o dir, Pont Gawr drosti, a Gwern Gawr, lle yr ymarllwysa i'r Wnion. Ar ael y drum, canfyddir y Brithfryniau, ac wrth fyned ychydig ymlaen, croesir nant fechan yn llifo drwy wely coch, a cheir y Rhyd Goch. Yna deuir at Lety Wyn; ond nis gwn pa un ai lleddfiad yw hwn o Lety Gwyn, ynte a fu rhyw Wyn yn pabellu yn y lle yn yr hen amser gynt. Yna ar y drum saif yr Esgeiriau, ac yn nesaf ato ceir y Tyddyn Mawr, er na wyddom am un Tyddyn bach yn gyfagos. Wedi hyn eir drwy Goed y rhos lwyd, a chanfyddir y Llwyn Coed, y Coed Mwsoglog, y Llety hen, y Prysg-lwyd, Braich y Ceunant, Bryn Coed y Wiwair, a gellir gorffwys ym Mhant y Panel, os na ewyllysir disgyn at Bont Llyn y Rhaiadr, i edrych ar yr eogiaid yn neidio. Ond nid yw Amser wedi gadael priodoldeb yr enwau hyn mor ddiamheuol a'r rhai a nodais o'r blaen. Nid yw y Tyddyn Mawr yn dyddyn mawr na bach yn awr, lleoedd digon noethlwm yw y Llwyn Coed a'r Coed Mwsoglog, ac y mae hen fanwydd y Prysg-lwyd oll wedi diflannu. Mae y dynion a enwasant yr holl leoedd hyn wedi syrthio i holl esgeulusdod tir Anghof, mae gwaith eu dwylaw wedi darfod; ond y mae enwau eu cartrefydd, y bryniau, a'r mynyddoedd eto yn para yr un. Er nad yw eu lleoedd yn eu hadnabod mwyach, eto adnabyddir eu lleoedd oddiwrthynt hwy. Nid rhyw lawer o gyfnewidiad y mae celfyddyd wedi ei wneyd ar wyneb anian yma er y dyddiau y byddai y preswylwyr yn gadael eu haneddau yn yr haf, ac yn esgyn gyda'u deadelloedd i'r haf-foddai; ond y mae amser wedi llwyr ddileu yr arferiad hon, os nad ydyw ei gweddillion yn aros eto yn Nolyddeulif. Yr oeddynt hyd yn ddiweddar, ac yr wyf yn cofio tŷ Rhys Llwyd yn cael ei ysbeilio unwaith yn absenoldeb y teulu yn yr Hafod, a chlywais Deio Llwyd yn cael ei ddyfarnu i saith mlynedd o alltudiaeth am y trosedd.
Yn Bryn Tynoriad, fel y crybwyllwyd, y treuliais yr ugain mis cyntaf o'm bywyd—yma y dechreuais gofio. Nid ydwyf yn sicr fy mod yn cofio codwm a gefais un nos Sul ym mreichiau fy mam, wrth iddi fyned i'm rhoddi yn y cryd. Y mae argraff gref ar fy meddwl fy mod, ac mai maglu a ddarfu ar draws y ci du; ond mae bron yn anichonadwy, gan nad oeddwn ond ychydig uwchlaw blwydd oed ar y pryd. Ond yr wyf yn cofio y diwrnod mudo i'r