Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

Bala, a'i gladdu yn y pwll mawnog; a phan fethasant a'i gael, nid oedd ganddynt ond tynnu rhan o'r ty i lawr. Efallai i Dduw. esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hwnnw; ond y mae goleuni Efengyl am un mlynedd ar bymtheg a thriugain yn ychwanegu yn ddirfawr at rwymedigaeth trigolion pob ardal a'i mwynhao. Na fydded i Dolgellau fod yn ddibris o'r goleuni byth mwyach.

II. TRADDODIADAU'R BALA.

Nid oedd fy nhaid yn debyg o beidio adrodd pethau fel hyn i'w ferch fechan. A byddai yn eu hadrodd wrth fyned a dyfod ar foreuau Sabbath o Lanfor i'r Bala, a darfu iddi hithau eu cofio. Dechreuodd Ymneillduaeth yn lled fore yn y Bala, a pherthynai i'r dref luaws o adgofion cynhyrfus y dyddiau gynt. Lled debyg i'r achos Ymneillduol gael ei sefydlu yn nyddiau Cromwell, os nad yn foreuach. Pwy oedd offeryn ei gychwyniad nis gwyddom. Nid oedd Gwrecsam, lle bu Walter Cradoc yn gweinidogaethu, yn bell iawn; a dichon iddo dalu ymweliad â'r lle. Beth bynnag am hynny, y mae traddodiad i Vavasor Powell bregethu yn ysgubor y Bryn Hynod, ym mhlwyf Llangower. Dywedir iddo ddechreu ei bregeth pan oedd yr haul yn tywynnu ar un ochr i'r ysgubor, ac na ddiweddodd nes oedd yn machludo ar yr ochr arall. Yr ydym yn sicr fod Powell wedi ymweled â Meirionnydd, ond dichon fod yn anhawdd penderfynu yr amser.

Tebyg i'w helyntion yn y gogledd ddigwydd pan oedd yn byw yn y Goetref, ym mhlwyf Ceri, yn swydd Drefaldwyn, yr hyn a wnaeth o'r flwyddyn 1648 i 1653. Gan ei fod yn teithio bron yn wastadol, nid anhebyg nad dyma yr adeg yr ymwelodd â'r Bala, a rhannau eraill o Feirionnydd. Cadarnheir ni yn y dyb mai naill ai Cradoc neu Powell a sefydlodd yr achos yn y gymydogaeth hon, drwy y ffaith fod cryn nifer o Grynwyr ym Mhenllyn yn y flwyddyn 1662, pryd yr ymwelwyd â hwy gan y llafurus Richard Davies o'r Cloddiau Cochion, gerllaw y Trallwm, yr hwn a sefydlodd "gyfarfod rheolaidd yn eu mysg trwy allu Duw." Yn gyffredin, yr oedd y Crynwyr, ar y cyntaf, yn encilwyr oddiwrth enwadau eraill, a digon tebyg y gallai fod felly yma. Ac wrth ystyried nad oes un hanes yn crybwyll fod yn Eglwys Ymneillduol y Bala Fedyddwyr, cynydda y tebygolrwydd iddi gael ei ffurfio gan Cradoc, neu ynte yn flaenorol