Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

drwy ymfudiad rhifedi mawr o honynt at William Penn a'i olynwyr i dalaeth Pennsylvania, yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg.

Yn y cyfwng o 1740, pan yr ymwelodd Lewis Rees a'r Bala, hyd enedigaeth fy mam, yr oedd dyfodiad Methodistiaeth wedi gwneyd cyfnewidiad mawr yn y dref. Yr oedd eu hachos wedi dyfod yn gryf, a'u dylanwad wedi sobri yr ardaloedd i raddau helaeth. Cyrchai fy mam yn llaw ei thad i wrando arnynt am flynyddoedd, ac nis gallaf roddi cyfrif manwl am yr hyn a'i harweiniodd i wrando ar yr Anibynwyr. Byddai ar achlysuron yn dilyn ei nain i'r Eglwys; ond nid da y cydunai y ddwy am yr athrawiaeth. Arferai yr hen wraig ddywedyd, ar ol dychwelyd o'r llan, "Wel, moliant i Dduw, ni a gawsom bregeth dda; pe gwnaem yr hanner, byddai o'r gorau arnom." "Ie, fy nain," meddai fy mam, "pwy sydd i wneyd yr hanner arall?" Byddai y gofyniad hwn bob amser yn difa amynedd a rhesymeg yr hen wraig; ac os rhoddid un ateb iddo, gweinyddid ef drwy fonclust lled hawdd ei deimlo, er nad mor hawdd ei oddef. Peth digon naturiol i blentyn craffus oedd holi pwy oedd i wneyd yr hanner yr oedd fy hen nain yn ei osod o'r neilldu mor ddiddefod yn wastadol. A pheth digon dyryslyd i gyneddfau plentynaidd oedd derbyn cernod cil-ddwrn i esbonio gofyniad mor naturiol a phwysig.

III. ADDYSG FY MAM.

Nid oedd dim neillduol yn yr addysg gartrefol a dderbyniodd fy mam oddiwrth fy nain. Nis gallai yr hen wraig ddarllen; ond yr oedd yn ofalus i argraffu ar feddyliau y plant y pwys o fod yn eirwir a gonest. Gwreiddiodd y ddwy egwyddor hon yn meddwl fy mam; a chyfansoddent ran bwysig o'i haddysg hithau i'w phlant. Dull fy nain o bregethu gonestrwydd oedd pwyso ar feddwl y rhai ieuainc eu dyledswydd o "adael pob peth fel y caent ef." Bu fy mam unwaith mewn cryn ffwdan o herwydd cyflawni y ddyledswydd yn rhy lythyrennol. Yr oedd yn myned ar neges un diwrnod i dy cymydog, lle yr arferai gael croesaw gan feistres y tŷ. Yr oedd llidiart y ffordd fawr yn agor i'r cae yd, a chafodd fy mam ef yn llydan agored ar yr achlysur hwn. Er mwyn gadael pob peth fel y cafodd ef, cymerodd ofal i beidio cau y llidiart. Wedi iddi gyrraedd