Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

V. YN Y DIWYGIAD.

Ym mysg plant y Diwygiad, rhifid fy mam. Teimlodd nerthoedd byd a ddaw. Ymaflodd rhywbeth" rhyfeddol ynddi. Llanwodd hi ag anobaith, nes y penderfynodd roddi terfyn ar ei hoedl. Aeth allan gyda'r bwriad o daflu ei hun i'r afon ryw noswaith. Nid oedd, yn ei thyb hi, ddim trugaredd iddi gyda Duw, a phenderfynai beidio dangos dim iddi ei hun. Yn yr artaith meddwl hwn, gorweddodd rhwng dwy garreg fawr ar ganol cae cyn cyrraedd ceulan yr afon. Bu yn y sefyllfa hon am hir amser, nes y clywodd, neu y tybiodd glywed rhyw lais yn dywedyd wrthi, "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu; a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a oleua i ti." Ysgafnhaodd hyn ei baich yn uniongyrchol. Aeth tua'r tŷ dan wylo yn drwm, ac ymdrechai ymguddio dan y bwrdd nes i'r teulu fyned i orffwys. Cafodd foddlonrwydd i'w meddwl yn raddol; ac yn Tachwedd, 1790, derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan Mr. Thomas. Os gofynnir i mi roddi cyfrif am y teimladau a ddesgrifir uchod, rhwydd gyfaddefaf nas gallaf wneyd dim o'r fath. Dywedwyd. wrthyf am ormod o bersonau a deimlodd yn gyffelyb i mi anturio gwadu eu bodolaeth; ond gan na theimlais ddim yn gyffelyb fy hunan, nis gallaf eu hesbonio. Nis gallaf farnu eu bod yn angenrheidiol er gwir droedigaeth; eto, gall y cyfryw droedigaeth fod yn gydfynedol â hwy. Dichon mai amgylchiadau yr oes ydyw yr allwedd a'u hegyr yn oreu ger ein bron. Yr oedd yr oes honno yn anwybodus ac yn ofergoelus. Mae pobl anwybodus ac ofergoelus bob amser yn hawdd eu dychrynu. Ofn ydyw un o'r cynhyrfiadau grymusaf yn eu mynwes. Os deffroir ofn, deffroir lleng o deimladau dychrynllyd ar ei ol. Yn y dyddiau hynny, nid "cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda," oedd y weinidogaeth. Mwg, mellt, a tharanau ydoedd. Ni byddai un oedfa yn arddeledig heb "sain udgorn, a llef geiriau." Pregeth sychlyd oedd honno pryd na byddai "y mynydd yn llosgi gan dân," ac yn crynnu yn ofnadwy iawn. Hawdd rhoddi cyfrif am hyn. Cafodd Howell Harris a Rowlands a'u cydoeswyr y bobl yn ymdroi mewn anwybodaeth echrys, ac anuwioldeb dychrynllyd. Rhybuddiasant hwy i ffoi am eu heinioes tua Soar, cyn y byddai dinas distryw yn wenfflam. Atebodd hyn y diben. Ymdrechodd olynwyr y gwŷr da ddwyn y gwaith ymlaen drwy yr un moddion. Gwisgasant yr un arfogaeth.