ac wedi hynny yn yr addoldy presennol. Y mae yn awr ffrwyth lawer iawn.
Ni bu amgylchiadau teuluaidd fy mam ond siomedig a thrallodus. Bu farw tri o bump o blant. Buont feirw yn eu hieuenctid, Ganwyd yr hynaf yn Nolserau, yn 1810, ac wedi ei fedyddio gan Mr. Williams o'r Wern, efe a ehedodd
"Ar edyn boreu adeg
I aros fry, o'r oes freg."
Mae yr ail eto yn fyw, yr hwn oedd gobaith a dymuniad llygaid fy mam. Y trydydd baban, fel y cyntaf, a hunodd ar ddydd ei enedigaeth, a
"Rhoed y bach yn nghryd y bedd,
Yn Beuno, oer-wlyb annedd."
Yn yr un modd, diangodd y pedwerydd baban, merch fechan, o freichiau gobaith. Huna hi a'i brawd hynaf yn Nolgellau, tra y gorwedd yr ail yn Llanecil. Ganwyd y pumed plentyn yn 1820, ac er fod ei einioes o hynny hyd y pryd hwn yn esboniad ymarferol ar y geiriau, "Wedi ein bwrw i lawr, ond heb ein llwyr ddyfetha," y mae yn aros hyd yr awrhon, gan rodio mewn petrusder rhwng bywyd ac angeu, a beunyddiol ddisgwyl am awr ei ymadawiad. Y mae yn teimlo ei hun fel carcharor, i'r hwn y rhoddir cennad i rodio yn y llannerch las o flaen drws y carchar. Nis gall fyned ymhellach, ac ni wyr pa mor fuan y rhaid iddo roddi i fyny yr ychydig a fwynheir ganddo.
VIII. ADDYSG YR AELWYD.
Yr oedd gofal fy mam am ei phlant yn fawr, a'i serch tuag atynt yn wresog. Yr oedd ei hawydd am iddynt fod yn "blant da" yn cael ei ddangos yn ddyddiol, drwy y gwaharddiadau llymaf rhag ymgymysgu â "phlant drwg." Mynych atelid hwy drwy hyn o chwareuaethau diniwaid ieuenctyd. Ond nid oedd ei thriniaeth o honynt bob amser yn ddoeth. Ceryddai yn llym, a hynny mewn nwyd, ac nid mewn cariad, y rhan fynychaf. Yr oedd hyn yn