gadael argraff o greulonder ar y meddwl, yn enwedig pan y byddai priodoldeb y gosp braidd yn amheus, fel y digwyddai fod ambell dro. Ond yr oedd hi yn meddwl yn gryf fod curo ei phlentyn â gwialen yn foddion lled debyg o gadw ei enaid rhag uffern. Dichon fod y dduwinyddiaeth gosbawl hon yn gywir, ond nid llawer o gredinwyr ynddi sydd ymysg plant ieuainc. Beth bynnag am hynny, nis gellir beio yn ormodol yr arferiad o guro plant am ddamweiniau, ac am weithredoedd nas gallant fod yn hysbys o'u natur a'u tueddiadau. Nid yw pethau o'r fath yn tarddu oddiar arferion meddwl, ffurfiad priodol y rhai a ddylai fod unig ddiben cerydd. Os llithra troed plentyn ar y llawr nes iddo drwy hynny dori llestr gwerthfawr, creulondeb barbaraidd yw ei gernodio am hynny, neu ei ysgwyd nes y byddo ei asennau yn siglo. Gwyddai fy mam pa fodd i geryddu yn ysbryd yr ysgrythyr, a gwnelai hynny yn achlysurol. Sancteiddiai y cerydd drwy air Duw a gweddi.
Yr oedd awydd fy mam yn fawr am i'w phlant gael addysg. Dysgasant ddarllen yn ieuainc, a gwneid hwy yn fwy hylithr yn hyn drwy ei bod yn eu gosod i ddarllen iddi pan fyddai seibiant. Yr oedd gan ei mab hynaf gof da, a thrysorodd lawer o'r Beibl yn ei gof. Yr oedd wedi ei fedyddio gan Dr. Lewis, a mawr oedd hyder fy mam y buasai yn troi allan yn bregethwr. Gall llawer ddiystyrru teimlad fel hyn mewn dynes dlawd, ac edrych arno fel balchder. Ond beth sydd yn fwy ardderchog na gweled mam yn aberthu anwylyd ei henaid ar allor Duw? Mae yn olygfa fil-fil mwy gogoneddus na phe y dymunai iddo goron ymerodraeth eangaf y ddaear. Ond yn hyn. siomwyd fy mam. Ni throdd ei mab hynaf allan yn bregethwr; a phan yn y diwedd y bwriodd ei goelbren ymysg y Wesleyaid, bu yr hen fam am gryn amser mewn cryn amheuaeth am ddiogelwch ei enaid. Credai, beth bynnag, rai blynyddoedd cyn ei marw, ei fod yn "fachgen duwiol," er mai prin y gallai faddeu y Wesleyaeth. Mor bell y mae rhagfarn ac anwybodaeth yn arwain pobl dda o'u lle! Pe y gwrandawai Crist ar yr ysbryd hwn, byddai cawodydd tân ar y ddaear yn llawer amlach na chawodydd gwlaw. "Nid ydynt yn dilyn gyda ni:" nac ydynt, y mae yn wir, ond y maent yn dilyn yr Athraw, ac y mae iddynt, o ganlyniad, Arweinydd gwell na "NI."
Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhyd y Main a'r Brithdir, bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai y Seren Gomer neu y Dysgedydd, yn oracl; ac os meddai