Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/30

Gwirwyd y dudalen hon

rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanacau wedi eu gwnio ynghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo "lawer iawn o lyfrau." Yr oedd presenoldeb "Corff Duwinyddiaeth" Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ.

Yr oedd tŷ fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynhwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, "Taith y Pererin," "Llyfr y Tri Aderyn," "Ffynhonnau yr Iechydwriaeth," (gan Mr. Jones, Pwllheli,) dau rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechreu y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân-draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd yr "Ysgerbwd Arminaidd," a'r "Bardd Cwsg." Yn eu dyddiau plentynaidd, yr oedd y mab hynaf yn bysgotwr campus, a'r ieuengaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu oreu y ffawd, yr oedd teulu caredig yn byw yn Esgairwen, lle y derbynnid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megys Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr gan Titus Lewis. Drwy gael benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd, yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllennydd ieuanc. Daeth hefyd ar draws y "Blodeu-gerdd," "Gorchestion Beirdd Mon," "Drych y Prif Oesoedd," a "Helyntion y Byd a'r Amseroedd." Darllennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth 'r awydd hwn am ddarllen.

IX. GWERTH ADDYSG.

Ond o hyn allan, yr oedd tymhestl i gyfodi. Barnai fy nhad y dylasai y bachgen erbyn hyn ddechreu meddwl am ennill ei fara. Nid oedd ei syniadau ef am ddarllen mor uchel a'r eiddo fy mam. Gwyddai hi mai trwy ddarllen y cesglid gwybodaeth, ac mai trwy wybodaeth yr oedd dyrchafiad; a gwyddaí fy nhad mai "trwy chwys dy wyneb y bwytai fara." Ymrwymaf nad oedd dyn yn y wlad yn deall nac yn cofio yr ysgrythyr hon yn well. Yr oedd perthynasau, a phobl dda ddiwyd y Brithdir hefyd, yn hollol o'r un farn; a byddai fy mam, ambell dro, bron o'r un syniadau, wrth