o gymundeb yr eglwys yn y Brithdir, gan ystyried eu hunain yn aelodau gyda'r "Hen Bobl," er mai anfynych yr elent i Lanuwchllyn o herwydd pellder y ffordd. Cynyrchodd hyn oerfelgarwch crefyddol. Esgeuluswyd moddion gras i raddau, ac aeth y gwrandawiad yn afreolaidd. Eto, cynhelid yr addoliad teuluaidd i fyny gyda mesur dymunol o reoleidd-dra. Wedi i holl helyntion cyfreithiol Llanuwchllyn fyned drosodd, ac i'r cyfeillion yno gael prawf fod cyfeiliornad mewn buchedd yn llawer mwy dinistriol yn ei effeithiau na chyfeiliornad tybiedig mewn barn, ymunodd fy rhieni drachefn â'r eglwys yn y Brithdir; ond treuliasant fel hyn flynyddoedd gwerthfawr i ennill dim-ond chwerwder ysbryd. Bendith i fyd ac eglwys fuasai heb glywed erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn.
XII. CYFARFODYDD GWEDDI CYMRU.
Yr oedd fy mam yn gallu darllen yn dda, a thrwy hynny dygai holl rannau yr addoliad teuluaidd ym mlaen yn rhwydd. Yr oedd ei galluoedd i weddio yn rhagori ar y cyffredinolrwydd o feibion a merched. Ei bai pennaf mewn gweddi oedd meithder. Clywais ambell weddi deuluaidd dri chwarter awr o hyd. Yr oedd hyn bedair gwaith rhy hir, beth bynnag; ac o'm rhan fy hun, ni ofalwn ddywedyd ei bod yn fwy na hynny. Y mae meithder mor anferthol yn lladd y sylw, ac yn creu mwy o ddymuniad am yr Amen nag am y fendith ofynedig. Arferai fy mam hefyd weddio yn gyhoeddus. Pan oedd yn byw yn Ty'n y Graig, yn agos i'r Arennig, nid oedd ond ychydig foddion gras mewn cyrraedd, heblaw y cyfarfodydd gweddi a gynhelid yn gylchynol yn nhai gwasgaredig y gymydogaeth. Nid oedd nifer y gweddiwyr ond ychydig, ac amryw o'r ychydig hynny yn lled anfedrus. Parodd hyn i'w gwasanaeth fod yn dra derbyniol a chymeradwy. I fy meddwl i, y mae crefydd yn y mynyddau fel yn gwisgo Cymru â gogoniant mwy ysblenydd na phe bai y mynyddau yn oreuredig âg aur coeth. Dacw hwy, ychydig lafurwyr ac amaethwyr tlodion, ar ol hir-ddydd o waith blinderus, yn gadael eu cartrefi ym mrig yr hwyr, ac yn myned dros ffosydd, ac ar hyd y sarn drwy gorsydd, a thros bontbrenau creginllyd, am ddwy neu dair milldir yn yr hwyr i addoli Duw yn rhai o'u tai bychain. Mae