Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/56

Gwirwyd y dudalen hon

O! pa iaith a lawn esbonia gyflwr fy nheimladau prudd!
Beth ddynoetha'r pryf gwenwynig ysa'm hedd o ddydd i ddydd?
Pa ryw eiriau gaf ddefnyddio, pan yn siarad am fy ngwae?
Nid oes iaith i'w osod allan oll yn gyflawn fel y mae.

Peidied haul y nef a chodi mwyach ar yr anial fyd,
Na thywynned seren oleu mwy o'r wybren las ei phryd,
Nac ymdreigled ffrwd risialaidd byth o ochr y bryn i lawr,
A distawed mwyn gerddoriaeth creadigaeth oll yn awr.

Peidied blodau teg y dolydd gwasgar peraroglau mwy,
Na sisialed yr awelon eu hyfrydlon donau'n hwy,
Na foed arwydd o orfoledd yn un man o ddaear Duw,—
Prin dangosai'r byd fel yna fy mlinderau aml ei rhyw.

Mi allaswn fod yn dawel mewn afiechyd nychlyd, gwyw;
Ni suddaswn er im' golli IOAN bach o dir y byw;
Ond pan rwygwyd o fy mynwes fy hawddgaraf briod lon,
Cefais glwyf nad oes a'i gwella tra b'wyf ar y ddaear hon.

Blwyddyn lawn sydd wedi treiglo er yr hwyr gwnaem ganu'n iach;
Ond at ddifa prudd—der calon, nid yw hyn ond ennyd fach;
Ger fy mron y mae dy ddelw lesg, guriedig, megis pan
Yn arteithiau olaf Angau darfu dy anadliad wan.

Nid fel yna gynt y'th welais, ail y rhosyn oedd dy rudd,
Hawddgar oedd dy lednais amrant, megis amrant deg y dydd;
Bywyd oedd dy wên gariadus, melus oedd dy dyner iaith,
Tlysach na holl flodau daear oedd dy rudd dan ddeigryn llaith,—

Dan y deigryn fynych dreiglai pan o fewn i gysegr Duw,—
Pan wresogai'th enaid hawddgar wrth y son am Brynwr byw;
Gwawr y rhosyn coch a'r lili oedd unedig yn dy bryd;
Ond y tegwch newidiasai Angau cyn dy ddwyn o'r byd.

Wrth dy gofio 'rwyf yn synnu, d'rysu mae fy meddwl blin;
Gwelais ynnot iechyd nwyfus, ond fe ddaeth tymhestlog hin;
Ciliai'r gwrid, a'r cnawd a guriodd, darfu'r wên mor llednais fu,
Ger fy mron nid oedd ond cysgod o dy berson prydferth, cu.