II. FFURFIAD NODWEDD CENEDL.
Er ffurfio nodweddiad cenedlaethol da, rhaid dechreu yn llygad
y ffynnon. Cyn i deml ysblenydd Jerusalem ddyrchafu ei mawredd
ar fryn Moriah, a pheri i'w haur a'i marmor wenu ar y wawr ac
ymogoneddu ym mhelydr haul, yr oedd hanes ei defnyddiau i'w
ddilyn drwy orchwylion yr adeiladydd a'r purydd i'r gloddfa greiglyd
a'r mwnglawdd lleídiog. Felly, rhaid i ninnau fyned heibio i'r adail
fawr genedlaethol, a gweithio ein ffordd i'r aelwyd, a gwylio o
amgylch y cryd, cyn y gwelwn deulu dyn rywbeth yn agos i'r hyn y
dymunem iddo fod. Y mae yn llawer haws darlunio a gweled
effeithiau ffurfiad nodweddiad personol na nodweddiad cenedl. Er
gweled yr olaf rhaid i ni feddiannu ein hunain mewn amynedd. Pel
byddai i'r llinellau hyn gael yr argraff mwyaf dymunol ar wyryfon a
mamau Cymru, nes eu dwyn i benderfynu gwneud yr oll a allant er
gwneuthur nodwedd ein gwlad yn ogoniant yr holl ddaear, a phe y
gweithredent yn ol eu penderfyniad, byddent hwy a'r ysgrifennydd
wedi myned i ffordd yr holl ddaear cyn y gwelid ond ychydig o
ffrwyth eu llafur. Nid mynych y mae yr hwn sydd yn plannu y
fesen yn byw i orffwys dan gysgod y dderwen. Darparodd Dafydd
ddefnyddiau, ond Solomon ei fab a adeiladodd y deml. Cyn medi
mewn gorfoledd, mynych y rhaid dwyn yr had gwerthfawr mewn
dagrau. Cyn y cyfodir John Roberts o Lanbrynmair i ddisgyn i'r
beddrod mewn henaint teg, fel ysgafn o yd yn ei amser, a'i enw yn
berarogl cenedl, rhaid cael y fam dduwiol i ddywedyd mewn serch a
dagrau wrth y baban bloesg am werth enaid a phwysigrwydd cariad
at Iesu. Dywedai Napoleon Buonaparte mai mamau oedd eisieu
yn Ffrainc. Dywedwn ninnau mai angen Cymru, a'r byd, yw
merched a mamau deallgar a duwiol.