Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/62

Gwirwyd y dudalen hon

unig drysorfa gwybodaeth, cyneddfau grymus ac awyddus am addysg. Iddynt hwy nid yw holl gerddoriaeth anian ond ysgrechian aflafar. Nid yw tlysni swynol y ddôl flodeuog a'r llwyni llawn o rosynau ond golygfeydd di-addysg. O'r gedrwydden gadarn y mae ei gwraidd wedi ymwthio i agenau y graig, a'r brig wedi chwedleua am oesoedd ag awel deneu oerlem Libanus, hyd yr isop a dyf allan o'r mur yng ngardd Ty'n y Buarth, nid yw meddyliau plant mamau anwybodus i dderbyn un addysg. Gall y gwanwyn ymwisgo mewn mil myrdd o wenau deniadol, ond ni dderbyn un wen yn ol oddiwrth filoedd o feddyliau y dylai fod hyfrydlais cân cariad yn eu genau yn ei gyfarfod. Coronir y flwyddyn à daioni gan ddwylaw Creawdwr yr haf, ond ni ddeffry coron o wneuthuriad a phlethiad dwyfol un teimlad yng nghalon cenedl anwybodus; ac nis gall lai na bod yn anwybodus, os felly y bydd eu mamau. Gellir profi gwirionedd y sylw hwn yn hawdd drwy edrych ar blant dynion of alluoedd cedyrn a grymus. Rywsut neu gilydd, y mae y cyfryw ddynion yn ymbriodi â menywod tra israddol iddynt eu hunain. Anfynych iawn y mae plant y cyfryw yn cyrraedd enwogrwydd y tadau, tra y mae plant gwragedd gwybodus a deallgar bron yn ddieithriad yn dyfod yn gawri yn y tir.




IV. OLWEN.

Bu farw, a chladdwyd hi mewn arch wael ar draul y plwyf, ac ym mhen ychydig wythnosau, dilynodd y baban druan i feddrod gwarthruddedig ei fam. Ni thynerwyd ei gwely angeu gan ddeigryn, ochenaid, na gweddi.

Y mae bedd glas yng nghornel mynwent Llan y Marian, ac yno, heb nod nac argraff, y gorffwys gweddillion marwol Olwen Dafydd. Mae y gwynt yn chwareu â'r glaswellt, fel y bu gynt â'i gwallt melyn, modrwyog; a'r gwlith yn gwlychu ei bedd rhag i rianod Cwm Bradwen wylo rhy fach am gwymp mor fawr.