V. GWAITH DAFYDD IONAWR.
Nid yn unig yr oedd ei waith yn fawr, ond yr oedd y draul o'i gyflawni yn aruthr. Mewn anhunedd, mewn afiechyd, mewn trallod, ac mewn ing, cysegrodd holl nerth ei enaid i wasanaethu ei Dduw. Gallasai dynion ereill wneyd yn gyftelyb, ond yr oeddynt hwy fel
Llongau wrth ddryll angor,"
yn cael eu lluchio oddiamgylch am na feddent ar sefydlogrwydd bwriad. Gallem gyferbynnu Yswain Glanymorfa âg Yswain y ——— ym Meirionnydd. Cafodd y cyntaf addysg dda, felly cafodd yr olaf. Yr oedd i'r cyntaf etifeddiaeth; yr oedd i'r olaf etifeddiaeth fwy. Ymroddodd y cyntaf yn ddisgybl i'r awen; felly y darfu yr olaf. Gorfu i un ei dilyn dan wg y byd; taenwyd rhosynau ar lwybr y llall. Cyfrannodd un at lenyddiaeth ei wlad, felly y gwnaeth ei gydyswain. Bu y ddau fyw i henaint teg, a gadawsant ar eu hol ffrwythau eu hawen. Ond beth oedd y ffrwythau hynny?
Canodd un ar destynau cyffredin; ymroddodd y llall i bynciau cysegredig. Mydrodd un i gyfoethogion mewn aur; trodd y llall ei wyneb at gyfoethogion mewn gras. Defnyddiodd un ei awen i fawrhau ei gyfoeth; defnyddiodd y llall ei gyfoeth i fawrhau ei awen. Plethodd un ei fflangell ddreigiawg i ffrewyllu crefyddwyr ei oes; plethodd y llall ei ffrewyll ysgorpionawg i fflangellu ei hannuwiolion, yn lleyg ac yn llên. Canodd un i bleserau trythyllwch; eiliodd y llall ei gân i hyfrydwch santeiddrwydd. Amcanodd un am glod ei oes ei hun; bwriodd y llall ei fara ar wyneb dyfroedd. oesau y ddaear. Canodd un i ddynion: canodd y llall i Dduw. Yr oedd y ddau yn foneddigion o'r un swydd, yn ddynion o dalentau, ac yn aelodau o'r un Eglwys, eto mor wahanol eu llwybrau. Yr oedd un wedi gosod ei nod yn uchel; hoffai gyfrinachu âg angylion— â'r Drindod; ymfoddlonodd y llall ar gael ei weled gan ddynion, ac efe a dderbyniodd ei wobr. Fel enw yr afon ar lan yr hon y trigai, yr hon a gollir mewn un arall, y mae ei enw wedi ei golli yn ffrwd