llenyddiaeth. Ond am Dafydd Ionawr, y mae ei enw ef, fel enw
ei gartref boreol, wedi ei uno â môr athrylith. Y mae gagendor
mawr wedi ei sicrhau rhwng athrylith wedi ei gysegru i Dduw, ag
athrylith yn crwydro y ddaear yn ddifwriad, ac yn ddiorffwys fel
Cain.
VI. Y WEINIDOGAETH YMNEILLDUOL.
Os ydym fel gweinidogion Ymneillduol yn gweled ein cyflogau yn fychain, gwell i ni droi i'r Eglwys Wladol. Os nad ydym yn foddlon i ddioddef adfyd gyda phobl Dduw, trwy dderbyn y cyflog bach, trwy fyw yn yr annedd salw, a thrwy ymborthi wrth y bwrdd diddanteithion, nid ydym yn ddilynwyr teilwng i efengylwyr Cymru, nac i apostolion Crist. Y mae ein cyflwr ni yn well na'r eiddo ein tadau.
Buont hwy fyw er ein mwyn ni, yr ydym ninnau i fyw er mwyn eraill. Gwir y gallem gyrraedd manteision uniongyrchol mewn ystyr dymhorol pe y rhoddai Arglwydd John Russel £150 yn flynyddol i bob un o honom. Ond beth fyddai sefyllfa ein holynwyr?
Beth fyddai sefyllfa grefyddol Cymru ymhen deugain mlyndd o amser? A ydyw hanes y byd yn ein cynysgaeddu âg un engraifft am weinidogion, y rhai, pan mewn undeb â'r llywodraeth wladol, a barhausant yn ffyddlawn i Dduw a'r bobl? Goddefed ein brodyr gweinidogaethol air y cyngor. Nid oes un ffordd fwy uniongyrchol iddynt golli eu dylanwad ar y bobl, a llofruddio eu hegwyddorion, na thrwy awgrymu fod eu cyflogau yn isel, a son am gysylltu swydd gweinidog â swydd athraw, ac i'r athraw hwnnw dderbyn arian y llywodraeth. Cofiwn nad ymddirieda y bobl ynnom ni heb i ni ymddiried ynddynt hwythau; ac os ymddiriedwn yn Nuw a'r bobl, ni bydd eisieu arnom. Y mae cyfarwyddwyr y bobl yn cyfeiliorni yn fynychach na'r bobl eu hunain.
Gŵyr yr ysgrifennydd beth yw ffyddlondeb y bobl. Nis gall ef ymffrostio mewn talentau ysplenydd, na dylanwad grymus. Nid