iawn i ni, ond y mae yn ddigon hawdd talu gormod am danynt. Ac
os ydym i aros mewn llyffetheiriau er mwyn eu cadw, gwell i ni fod
yn rhydd. Gwell aberthu y gadair farddonol, y tlysau aur a'r tlysau
arian, nag anrheithio barddoniaeth ein gwlad. Llafuriwn i roddi
iddi lenyddiaeth o deilyngdod, rhoddwn iddi farddoniaeth y gellir ei
chymharu â'r eiddo cenedloedd eraill, a gadawn rhwng ein gwlad a
chymeradwyo ein hymdrech neu beidio. Mae yn ormod o'r dydd i
ni ymruthro yn ol i eigion y ddunos. Mae ffrydlif gwelliant a chynnydd wedi ein cludo yn rhy bell i feddwl am nofio yn ei erbyn. Ni
newidir Pont Menai am geubalfa Porthaethwy, Ni newidir Pont
Menai ei hunan am Bont Britannia. Ni throir at Ddosbarth Dafydd
ab Edmwnd am ddosbarth Morgannwg, ac ni throir at ddosbarth
cynghaneddol Morgannwg yn lle y mesurau rhyddion, am fod cynghanedd, yng ngeiriau pwysig yr hen Iolo, yn caethu y synwyr,
a'r ymbwyll, a thrwy hynny y GWIRIONEDD.
VIII. NOD CWESTIWN A RHYFEDDNOD.
Goddefwyd rhai i gymeryd ychydig win" er mwyn -?-
IX. CYNHYRFIAD AC EGWYDDOR.
Dros ennyd awr yr erys ac yr effeithia cynhyrfiad ar y meddwl
dynol. Arferwyd gormod o gynhyrfiadau yn yr achos. Meddyliasom fod yr yspardun yn ddigon nerthol i fyned a'r gorchwyl i ben;
ond yn awr, pan y mae y cynhyrfiadau wedi darfod, y mae y Gymdeithas wedi syrthio i lewygfa. Dichon cynhyrfiadau, fel toriad
cwmwl, wneud galanastra mawr dros ychydig amser, ond y mae
egwyddorion yn ffrydio fel Euphrates, yn wastad, parhaus, ac
anorchfygol, yn sicr o'r môr, ac nis gall neb sefyll yn eu herbyn.