Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

X. CYMEDROLWYR.

Dangos meddwyn i'w plant ydoedd llwybr y Spartiaid i'w cadw rhag meddwdod; trwy ddangos yfwyr cymedrol i'w hepil y mae rhieni Prydain wedi magu cenedlaeth o feddwon-wedi dwyn i fyny filoedd o greaduriaid y gwridodd dynoliaeth o'u herwydd, yr ochen- eidiodd daear Duw wrth eu cynnal, y wylodd angylion yn eu hachos, ac yr ymeangodd Uffern ei safn yn anferth i'w derbyn. Po ragoraf fyddo cymeriad yr hwn a roddo esiampl ddrwg, mwyaf oll y perygl i'r rhai a edrychant arno gael eu harwain ar gyfeiliorn. Y mae gan y meddwl fwy o ymddiried ynddo, a thrwy hynny aiff ymlaen fel oen yn cael ei arwain i'r lladdfa. Y mae o'r pwys mwyaf gan hynny i Ddirwestwyr ymdrechu ym mhob modd i oleuo yr yfwyr cymedrol, a dangos iddynt eu bod yn awr fel hud- lewyrnau yn arwain i dir diffaith a phyllau, i dir ing a chysgod angeu.




XI. YR HEN AMSER.

Yng Nghymru, y mae y cyfnewidiad mwyaf wedi cymeryd lle mewn pob ystyriaeth. O gylch cant a phymtheg mlynedd yn ol, nid oedd pump o bob cant yn gallu darllen. Yr oedd ymladdfeydd gwaedlyd yn cymeryd lle rhwng plwyfydd cyfain a'u gilydd. Yn ffair y Waen, yn swydd Forgannwg, ac yn ffair y Rhos, yn swydd Aberteifi, byddai brwydrau dychrynllyd yn cymeryd lle. ffeiriau Dolgellau, byddai ymladd arswydus rhwng pobl y plwyf hwnnw a phlwyf Llanfachreth; ac os gallai pobl Dolgellau guro pobl Llanfachreth drwy yr aton tua'u hochr eu hunain, byddai y fuddugoliaeth yn ogoneddus. Ar y Sabbath, ymgynullai rhan o'r ddau blwyf yn y Ddolgoed, ger y Bontnewydd, i ddangos eu deheurwydd gyda'r bel droed. Nid oedd un gymydogaeth heb ei thwmpath chwareu, nac un clochdy heb fod yn wasanaethgar i chwareu pel.