hynny ymgripiai oddiyno drwy dwll y gwyfyn." Ni allai Mr.
Williams ond dywedyd wrth ddadleuydd cecrus, "Nid ydych yn
gweled, frawd;" ond ysgrifenasai Hall y gair Duw ar dipyn o bapyr,
gan ofyn iddo a oedd yn gweled hwnnw; ac wedi derbyn ateb cadarnhaol, buasai yn gosod penadur arno, ac yn gadael y gŵr da i'w fyfyrdodau. Y mae
meddyliau Mr. Williams yn goethedig, ei
frawddegau yn llawn ac ymchwyddawl, fel rhediad afon fawreddog,
a gwneir i chwi gredu fod y pregethwr yn teimlo ei hunan. Dywedir
gan rai nad yw yn dangos digon ar ei berlau i'w wrandawyr; os.
gwir hyn, nid eu prinder, ond eu gorlawnder yw yr achos o hynny.
Nid un neu ddau o feddyliau sydd ganddo ef i'w dangos yn ei bregeth, ond y maent yn lluaws. Yr oedd Dr. Chalmers yn ymaflyd
mewn un meddwl, ac yn ei ddilyn drwy y greadigaeth; yn edrych
arno o bob man, ac yn tremio ar ei holl rannau. Nid ydym yn
bwriadu ymyrryd â'r ddadl pa un yw y goreu. Meddyliem y rhaid
ei fod yn boenus i ddyn ymwybodol o deilyngdod ei feddylddrychau,
gymeryd gafael ynddynt y naill ar ol y llall, a dywedyd wrth y
gynulleidfa, Welwch chwi mor dlws yw y meddwl yma?" ac am y
llall, Edrychwch ar brydferthwch hwn." Pan oeddym yn ieuanc,
yr oedd gan berthynas i ni oriawr, yr hon oedd y gyntaf a welsom
erioed. Byddai yn arfer ei dangos i ni—y cefn, a'r wyneb, a'r
bysedd, ac yn ei dodi wrth ein clust er mwyn i ni ei chlywed yn
tipian. Yr oedd honno yn ffordd dda gyda phlentyn, ond nid oes ei
hangen—o'r hyn lleiaf ni ddylai fod—ar bobl mewn oed.
XVI. Y MOR FORE'R ADGYFODIAD.
Mewn eigionau mae, rhwng creigiau, |