Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

herwydd y mae ei sefyllfa yn unig, trymllyd, a digysur. Eto, rhy fynych yr edrychir arni gyda diystyrrwch ac esgeulusdod gan bob llygad, ond eiddo yr Hwn sydd wedi cyhoeddi ei hun o'i breswylfa sanctaidd yn Farnwr y gweddwon." Ond er i Naomi golli Elimelech, er i lwch ei hanwylyd ymgymysgu â phriddellau gwlad Moab, ac er iddi dywallt uwch ei fedd chwerwaf ddagrau gofid; eto, nid oedd ei holl gysur wedi darfod: yr oedd Mahlon a Chilion wedi eu gadael er ei chysuro a'i chynnal. Priodasant, ac nid oes le i feddwl i hynny achosi gofid i'w mam; ond cyn hir, "Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau, a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab a'i gŵr hefyd." Mae ei sefyllfa wedi myned yn fwy cyfyng yn awr nag erioed.-mae wedi suddo yn ddyfnach yn y dyfroedd dyfnion, ac ysguba y llifeiriant drosti gyda mwy o rym. Ond, eto, trugarog a thosturiol iawn yw yr Arglwydd: yng nghanol barn y mae yn cofio trugaredd. Yr oedd ganddi ferched yng nghyfraith tyner a serchog; a chlywodd hefyd newyddion da o fangre ddewisol y ddaear, "fod yr Arglwydd wedi ymweled â'i bobl, gan roddi iddynt fara." Penderfynodd ddychwelyd, a chyfeirio ei chamrau unigol tua gwlad yr addewid. Cychwynodd â'i dwy waudd gyda hi, ar hyd y ffordd i ddychwelyd i wlad Juda. Golwg effeithiol ydyw gweled gwraig weddw yn myned mewn unigolrwydd a thlodi tua'i gwlad-wedi myned allan yn gyflawn, ond yn dyfod eilwaith yn wag, a thrysorau hoffus ei chalon wedi eu gadael yn mynwes oerllyd y bedd. Diau fod yma rai o honoch wedi teimlo hyn, -bum innau yn ceisio meddwl beth fuasai teimladau un, pe y buasai yn y sefyllfa honno; ond croeswyd y cyfan i mi. Heddyw, a fory, a threnydd, caf deimlo holl chwerwder hyn fy hunan; ac wrth wyf wedi ei deimlo yn barod, gwn fod eto gwpan- eidiau wermodaidd yn fy aros; ond yr un Gŵr sydd wedi cymysgu y wermod a'r Hwn y mae ei gariad yn well na'r gwin.

Ust! dacw y tair yn sefyll ar ben y bryn,-weithiau yn edrych tua gwlad Moab, ac weithiau yn troi eu hwynebau tua chyffiniau Canaan wlad." Mae awr y penderfynu, y ffarwelio, y dychwelyd, a'r ymlynu wedi dyfod. "Ewch," meddai Naomi, dychwelwch bob un i dŷ ei mam; gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac à minnau." Dacw gusan ymadawol Orpah wedi ei roddi, a llw ymlynol Ruth wedi ei dyngu. Y mae y flaenaf yn troi yn ol, ond yr olaf a deithia gyda ei mam yng nghyfraith tua gwlad Juda. Hoff ac anrhydeddus i'r natur ddynol ydyw gweled serch mor dyner, a chariad mor anorchfygol. Dyma y pryd