Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

wythnos, ar ol nychdod blin, bu farw ein baban. Ganwyd ef Medi 15, a bu farw Hyd. 22, 1846. Yr oeddwn i yn afiach y pryd hwn, ac yn dechreu methu gyda'r weinidogaeth, a thra yr oeddwn i yn glaf yn y gwely, daeth hithau yno,—byth i gyfodi mwy. Bu farw ar nos Sul, y 25 o Ebrill, 1847, yn saith mlwydd ar hugain a chwe mis. oed. Hebryngwyd hi i'r bedd y Gwener canlynol gan dyrfa luosog ac y mae yn awr yn gorwedd gyda'i baban mewn beddgell dlos yn addoldy Saron i aros yr adgyfodiad gwell. Melus fyddo ei hun, ac ym more y deffroad mawr cyfoded hi a'i hanwylyd bychan yn fwy ysblenydd na'r wawr, a bydded i ninnau gael cydfyw â hwy,

"::heb deimlo loes,
Marwolaeth drwy anfarwol oes."

Ar ol hyn aeth fy iechyd yn ddrwg iawn. Torrodd llestr gwaed yn fy nwyfron ym mhen pymthegnos ar ol yr angladd. Dygodd hyn fi bron i'r bedd. Ymadawais â Thredegar am ddeg wythnos, a bum yn ffynhonnau Llanfair ym Muallt, Dolgellau, Caernarfon, a chyda fy nheulu yn—nghyfraith, a dychwelais yn ol yn rhyw gymaint gwell. Pregethais yn achlysurol am dri mis, ond dywedai y meddyg wrthyf na ddylaswn bregethu, ac yn y diwedd penderfynais ymadael. Cefais fy newis yn ysgrifennydd i'r National Temperance Society yn Llundain. A gwerthais fy nodrefn, a sypynais fy llyfrau gyda'r bwriad o fyned yno. Ond bum yn glaf iawn am wythnosau. Treuliais tua phum wythnos gyda'r Arglwyddes Hall yn Llanover. Aethum oddiyno i Gaerdydd at Dr. Edwards, meddyg, lle y darbwyllwyd fi yn niwedd Mawrth ganddo ef ac eraill i gymeryd. golygiaeth y Principality, ac y rhoddais fy swydd yn Llundain i fyny. Ni bum yn gysurus iawn yn y sefyllfa hon, gan fod meddwl y meddiannydd yn dra ansefydlog. O'r diwedd aeth i ewyllysio gwneyd y papyr yn dyner iawn at bleidwyr addysg y Llywodraeth, ac yn hollol amddifad o Wladoldeb Cymreig. Teimlais fod hyn yn drysu ei amcan a'i egwyddorion dechreuol, a gadewais ef yn niwedd Medi 1848, ar ol ei olygu am chwe mis. Nis gallaswn yn fy marn i wasanaethu Cymru ac addysg rydd mwy. Rhoddais rybudd i ymadael ar y chweched o Fedi, ac ar y seithfed derbyniais wahoddiad oddiwrth John Cassell, Ysw., i gymeryd rhan yng ngolygiaeth y Standard of Freedom yn Llundain. Cydsyniais, ac ymadewais o Gaerdydd yr wythnos gyntaf yn Hydref, 1848.

Nov. 1st, Called yesterday with the Rev. Henry Richard, Sec-