Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

flwyddyn 1849, yn y mis Mai, bedyddiwyd ef a'i gyfaill, Edward E. Jones, ac eraill na wyddis eu henwau, yn Llyn y Felin, gan y diweddar Barch. William Roberts, y gweinidog annwyl ac adnabyddus hwnnw.

Gwnaethant broffes dda o'u ffydd yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr.

Ymroddodd y ddau gyfaill ieuanc i fynychu'r moddiannau yn Salem, Fforddlas, ac i wneud popeth yn eu gallu gydag achos yr Arglwydd yno. Ymarferion crefyddol oeddynt yn sicr, o dan fendith Duw, o sancteiddio eu cymeriad, a maethu eu tyfiant mewn gras ac yng ngwybodaeth ein Harglwydd a'n Hachubydd Iesu Grist, ac o'u newid hwy a phawb arall yn raddol i fod yn un ffurf a delw ei Fab Ef. Gresyn na ellid argyhoeddi holl broffeswyr crefydd yr oes freintiedig hon mai dyma bwrpas ysbrydol moddiannau gras. Peth amhosibl i'r rhai anffyddlon i'r moddiannau, ydyw cynyddu mewn gras ac yng ngwybodaeth am Dduw, ac ni ddaw y cyfryw byth ar ddelw yr unig anedig Fab heb newid eu ffyrdd.

Gwelodd ein brawd werth yn y moddiannau, a bu yn ffyddlon iddynt ar hyd ei oes. Ni ellid cymdeithasu i Tomos Efans heb deimlo fod ei gymdeithas yntau yn wir gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef, Iesu Grist.

Y mae gobaith am gadw pob mab a merch roddant bwys ar eu bedydd, ac sydd yn byw i'w egluro i'r byd. Pobl ddieithr i'r Arglwydd, yn sicr, yw'r bobl broffesant ei enw, ac sydd yn anffyddlon i foddiannau gras. Bu'n gweini yn yr ardal mewn amryw leoedd, megis y Croesau a'r Llan, gyda Dr. Williams, &c., &c. Prentisiwyd ef gyda Mr. Hugh Hughes, y Graig, i fod yn Asiedydd. Gŵr a gariai ymlaen fasnach bwysig, oedd yn adnabyddus iawn i gylch eang mewn byd ac eglwys oedd Hugh Hughes. Cadwai weithwyr, ac yr oedd yn ŵr amlwg a phwysig gyda'r Achos yn Salem, Fforddlas, ac wedi i'n gwrthrych fyned trwy ei ddwylo ef, yr ydoedd yn addas i fyned i bob man wedi hynny, ac yr oedd erbyn hyn yn wr ifanc tair ar hugain mlwydd oed; wedi dysgu ei grefft, wedi ennill ffafr ei feistr, ac wedi gwneud lle annwyl iddo ei hun yn yr eglwys yn Salem, Fforddlas, ac yn yr holl ardal, fel gŵr ifanc y gellid ymddiried