Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/18

Gwirwyd y dudalen hon

myned yn ol nos Sul, ar bob tywydd. Gwelsom ef ar nosweithiau tywyll, gaeafol ac ystormus, yn gorfod ei wynebu. Gwyddom y byddai rhywun yn dod i'w gwrdd yn y blynyddoedd olaf, ac y byddai y diweddar Mr. Robert Williams, Ffrith y Llan, coffa da am dano, yn rhoddi cymorth amserol iddo yn fynych.

Gwnaeth bethau y buasai yn waith anodd cael neb i'w gwneud heddyw. Cafodd yr ysgrifennydd fenthyg tri o'i ddyddiaduron, y rhai a ddangosent beth oedd ei destunau, a pha le yr ydoedd bob Sul am oddeutu hanner ei oes fel pregethwr. Ac os byddai rhywbeth eithriadol, megis bedyddio, ceir popeth i lawr yn drefnus. Gresyn na fuasai yr oll o'i ddyddiaduron ar gael i bwrpas y byrgofiant hwn. Buasent yn wir ddiddorol a buddiol. Byddai galw mawr am ei wasanaeth; damwain oedd ei gael yn segur ar y Sul. Dau beth a'i cadwant gartref, sef, gwaeledd, a thywydd eithriadol o arw.

TAFLEN EI DEITHIAU.

Taflen a ddengys deithiau a llafur gweinidogaethol y diweddar Barch Tomos Efans (Cyndelyn), yr hon a gymer i mewn y blynyddoedd 1879-1883, 1889-1901, a 1901 hyd Rhagfyr, 1907, o fewn dau fis i'w farw. Felly gwelir fod o'r amser y dechreuodd bregethu hyd ganol Medi, 1879, ac o 1883 hyn Ionor, 1889, oddeutu ugain mlynedd o ddechreu a chanol ei fywyd gwerthfawr heb fod gennym gyfrif am danynt. Dyma y daflen :—