Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/21

Gwirwyd y dudalen hon

wneud pregethau, ac nid yn eu gwneud rhywsut y byddai; nage, yn siwr, gwnai ei bregeth fel pob peth arall o'i eiddo, wrth gynilun wedi ei feddwl yn ofalus, ac mewn trefn dda, a'r gwirionedd megis y mae yn yr Iesu wedi ei brofi hefyd, a'i weithio allan ym mywyd y Parch. Tomas Efans (Cyndelyn). Mwynhad di-ddarfod ydyw i'r hwn sydd yn byw yr efengyl ei phregethu, ond y mae gwrando; pregethau hynny, i'r bobl sydd heb brofiad o'r efengyl, yn sicr o fod y peth mwyaf diflas iddynt, a chyffredin yn eu golwg. Nid oedd ond y bobl oeddynt yn cael y gorau allan o'u proffes grefyddol, trwy fod ar eu gorau, yn gwneud eu dyledswyddau yn ofn yr Arglwydd, fedrant fwynhau pregethau Tomos Efans; i'r bobl hynny, aur a pherlau oeddynt i gyd.

FEL PREGETHWR.

Yr ydoedd yn fuddiol, addysgiadol, ymarferol, mwy o sylwedd nag o sŵn. Elai i mewn i ystyr ac ysbryd ei destyn bob amser. Symleiddiai ei gynnwys, a deuai a phethau mawrion a gogoneddus yr efengyl i gylch dealltwriaeth ac amgyffredion ei wrandawyr oeddynt ar yr un lefel ysbrydol ag ef ei hun; amcanai at hynny a llwyddai i'w wneud hefyd.

Ceir ambell i bregethwr yn amcanu, ac yn gallu gwneud pethau syml yr efengyl yn bethau mawr, tywyll, a dyrus, na ellir eu deall. Os nad yw y pregethwr yn eu deall ei hunan, nis gall y dyn hwnnw obeithio cael neb arall i'w deall. Ac y mae pob lle i ofni fod llawer bethau amherthynasol yn cael eu dweud o lawer pulpud am nad oes gan y pregethwr weledigaeth bersonol phrofiad o nerthoedd; gwirionedd yn ei ysbryd ei hun. Un peth yw annerch cynulleidfa, peth arall yw pregethu yr efengyl; un peth yw gwylied beth a ddywed pob math o ddynion am y gwirionedd ac am bethau eraill Cysylltiol, peth arall yw gwybod y gwirionedd, gwybod cariad Crist, yr hwn orfoda y pregethwr i ddweud y pethau a welodd ac a deimlodd am Air y bywyd. Y perygl mawr i ni fel pregethwyr ydyw bod yn gyfarwydd â llenyddiaeth Trefn inwr y Cymod, heb fod yn gyfarwydd a'i hysbryd. Gall pregethwyr felly synnu'a diddori eu gwrandawyr, ond mid eu lleshau. Pan y mae mwy o sôn am y pregethwr