Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

gymerodd ei fachgen at yr allor i dyngu gelyniaeth anghymodlawn yn erbyn Rhufain, felly y teimlais innau yn barod, wrth sefyll ar lan bedd fy nghyfaill, cyfeillgarwch yr hwn am bymtheng mlynedd oedd fy rhagorfraint a’m hymffrost, i gymeryd llw o ffyddlondeb i achos Heddwch, achos yr oedd efe wedi gwneud mwy drosto nag un dyn yn ei amser; a phe buasai yn fy ngallu, cymeraswn gannoedd o wŷr ieuainc Lloegr yno, ac uwchben bedd y gŵr heddychlawn hwn, tyngaswn hwy i gyffelyb ffyddlondeb diymarbed i'r un achos."

Pe cymerasai Mr. Richard ei ddigaloni wrth weled ei gyfaill, Mr. Cobden, yn cwympo wrth ei ochr, dios y buasai gwedd dra gwahanol ar achos Heddwch yn awr. Ond nid felly y bu. Neidiodd i'r adwy, ac ymladdodd hyd angeu, a gwnaeth wrhydri digyffelyb. Coded y nefoedd luaws eto o wŷr ieuainc yng Nghymru o'r un ysbryd dewr a Mr. Cobden a Mr. Richard, rhai a benderfynant ymladd yn erbyn y gelyn Rhyfel, yr hwn a wnaeth gymaint i anrheithio gwledydd y ddaear. Collodd Prydain yn unig yn y rhyfel diweddaf yn Affrica 22,450 trwy farwolaeth, clwyfwyd 22,829, a danfonwyd 75,430 adref wedi colli eu hiechyd! Onid yw ffeithiau noeth fel hyn yn ddigon i'w symbylu? A chofier mai nid y bywydau a gollir, a'r arian a dreulir, ydyw drygau penaf rhyfel. Mae y drygau ereill yn annisgrifiadwy.